12 Awst 2025
Mae un o’r llwybrau rheilffordd harddaf yn y DU wedi dangos gwelliant cyson mewn perfformiad a dibynadwyedd i deithwyr eleni.
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer llinell Calon Cymru, sy'n cysylltu Abertawe ag Amwythig drwy Landrindod, yn dangos bod cyfradd dibynadwyedd gwasanaethau ar hyd y llwybr yn sefyll at 97.5% rhwng 22 Mehefin a 19 Gorffennaf. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd 283 o wasanaethau wedi'u hamserlennu i weithredu a 276 o wasanaethau wedi rhedeg. Roedd yna saith cansliadau.
Cynyddodd prydlondeb y gwasanaethau hyn a gyrhaeddodd o fewn 3 munud i'w hamser a hysbysebwyd hefyd i 81.2%, i fyny o 64% ar ddechrau'r flwyddyn, gan ddod â thawelwch meddwl a phrofiad gwell yn gyffredinol i deithwyr lleol a theithwyr dydd.
Ers Ionawr 2025, mae dibynadwyedd y trenau sy'n cael eu rhedeg ar y llinell hon wedi bod yn gyson uwch na 90%.
Mae llinell Calon Cymru yn teithio trwy rai o dirweddau mwyaf godidog Cymru, gan gynnwys bryniau tonnog a phentrefi gwledig hardd. Mae'r llwybr nid yn unig yn cynnig dull o gludiant ond profiad, gan ddenu cwsmeriaid o bell ac agos a gweithredu fel llinell achub ar gyfer gwaith, addysg a hamdden.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae darparu trafnidiaeth well yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon ac rwy’n falch o weld y gwelliant calonogol hwn ar linell Calon Cymru.
"Mae’n dda gweld gwelliannau ym mhrofiad teithwyr a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o gyflawni hyn.”
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r ffigurau hyn yn galonogol ac yn adlewyrchu’r gwaith rydyn ni a’n partneriaid yn Network Rail wedi bod yn ei wneud i ddarparu gwasanaeth trên sy’n gyson ddibynadwy.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth i’r cymunedau hynny ar hyd y llinell hon a bod yna adegau yn ddiweddar lle nad yw ein gwasanaeth wedi bod i’r safon a ddisgwylir gan gwsmeriaid.
“Er ei bod hi’n braf gweld perfformiad yn gwella ac yn symud i’r cyfeiriad cywir, mae gwelliannau i’w gwneud o hyd.”
Mae’r ffigurau gwell diolch i waith caled ein staff a phartneriaid Network Rail sy’n cynnal a chadw’r trac a’r trenau gydag ymroddiad eithriadol.
Mae hefyd yn ganlyniad i angerdd pawb sy'n ymwneud â'n mentrau Rheilffyrdd Lleol a Rheilffyrdd Cymunedol, sy'n cydweithio'n agos i wella'r profiad rheilffordd ledled Cymru.
Nodiadau i olygyddion
- Mae rheilffyrdd lleol yn fenter ar y cyd gyda phartneriaid o fewn y diwydiant, Network Rail a BTP, gan gydweithio i wella'r profiad rheilffordd cyffredinol mewn lleoliadau lleol.
- Ar hyn o bryd, mae TrC yn cydweithio mewn tair menter Rheilffordd Leol: Gorllewin Cymru, Cambrian, a Gogledd Cymru.
- Mae enghreifftiau o waith Rheilffyrdd Lleol diweddar yn cynnwys:
- Glanhau gorsaf Llandrindod yn ddwfn
- Cyflwyniad llwyddiannus o'r trenau teithio llesol dosbarth 153 newydd
- Treialu gwasanaethau ychwanegol ar y Sul yn ystod yr haf
- Gosod cynhwysydd newydd ar y platfform i'r Gogledd yn Llandrindod sy'n caniatau mynediad cyflym at ddeunyddiau hanfodol heb fod angen bloc o'r rheilffordd, gan leihau oedi a llwyth gwaith signalwyr, felly o ganlyniad yn cynyddu dibynadwyedd
- Nod ein partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yw i arddangos y gorau sydd gan ein rhwydwaith Cymru a'r Gororau i'w gynnig drwy ddigwyddiadau, prosiectau a sgyrsiau cymunedol.