26 Hyd 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys yn cyflwyno ei wasanaeth fflecsi sy'n ymateb i'r galw i Rhaeadr Gwy o 2 Tachwedd, gan ddod â chyfanswm nifer yr ardaloedd fflecsi i 13 ar draws Cymru wledig.
Wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol, bydd y gwasanaeth yn rhoi ffordd hyblyg a dibynadwy i drigolion ac ymwelwyr ar draws Rhaeadr Gwy, Llanidloes, Y Groes, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod a Chwm Elan i symud o gwmpas ardaloedd gwledig heb ddibynnu ar gar.
Bydd y gwasanaeth yn cysylltu pobl â gwasanaethau lleol, atyniadau, cyflogaeth, addysg a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ymlaen gan gynnwys yr X75 i Aberystwyth, y T4 i Ferthyr Tudful, a Llinell Calon Cymru.
Wedi'i ddarparu gan TrC mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Simon Price Cars, mae'r gwasanaeth yn cynnig dewis arall cyfleus i wasanaethau bws llwybr sefydlog traddodiadol mewn ardaloedd gwledig.
Yn wahanol i lwybrau bws confensiynol, mae fflecsi yn caniatáu i deithwyr archebu teithiau trwy'r ap neu dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth yn codi teithwyr o leoliad diogel gerllaw ac yn mynd â nhw i gyrchfannau o fewn y parth gweithredu.
Cyn y lansiad, bydd cynrychiolwyr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned ar draws y parth newydd, gan roi cyfle i drigolion ddysgu mwy am y gwasanaeth, gofyn cwestiynau a derbyn cefnogaeth gyda lawrlwytho'r ap a gwneud archebion.
Anogir preswylwyr i ddod draw i un o'r sesiynau isod:
- Y Groe, Llanfair-ym-Muallt, 9:45-11:30am ddydd Iau, 29 Hydref
- Y Bontnewydd-ar-Wy, ger Swyddfa’r Bost a'r Golden Lion, 1-2:45pm ddydd Iau 29 Hydref
- Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy, 10am-2:30pm ddydd Gwener 30 Hydref
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper: "Mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau gwledig, gan helpu pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a hamdden.
"Rydym wedi ymrwymo i wella opsiynau teithio cynaliadwy ledled Cymru, a bydd y gwasanaeth fflecsi newydd hwn yn darparu mwy o hyblygrwydd i drigolion ac ymwelwyr sy'n teithio ledled ardal Rhaeadr Gwy.
"Mae gwasanaethau fel fflecsi yn helpu i fynd i'r afael ag teimlo’n ynysig, gwella mynediad at wasanaethau hanfodol a chynnig dewis arall ymarferol i ddefnyddio ceir preifat."
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth ac Integreiddio Rhanbarthol Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn falch o fod yn cyflwyno fflecsi i Rhaeadr Gwy a'r cymunedau cyfagos, gan ddarparu ffordd fwy hyblyg a chyfleus i bobl leol deithio.
"Bydd y gwasanaeth newydd yn helpu i gysylltu pobl â gwaith, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill, tra hefyd yn gwella mynediad i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
"Mae fflecsi eisoes wedi profi'n llwyddiannus mewn cymunedau ledled Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion trigolion ac yn helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol ar gyfer teithiau bob dydd."
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach yng Nghyngor Sir Powys: "Mae trafnidiaeth gyhoeddus leol dda yn hanfodol i gefnogi cymunedau gwledig bywiog a chynaliadwy.
"Mae cyflwyno fflecsi yn ardal Rhaeadr Gwy yn darparu opsiwn teithio newydd cyffrous a fydd yn ategu'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach wrth helpu pobl i wneud teithiau mwy cynaliadwy.
"Rydym yn falch o weld y buddsoddiad hwn yng nghefn gwlad Powys ac edrychwn ymlaen at y manteision y bydd yn dod â nhw i gymunedau lleol ac ymwelwyr â'r ardal."
Gellir archebu teithiau drwy'r ap fflecsi, neu drwy ffonio 0300 234 0300.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r ap, ewch i https://trc.cymru/fflecsi
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r gwasanaeth yn disodli'r B57 a'r B58 Bwcabus
- Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc. Gall cwsmeriaid dalu drwy'r ap, trwy dalu digyswllt, arian parod, neu ddefnyddio Tapio ymlaen, Tapio ymadael. Gall deiliaid Cerdyn Teithio Consesiynol Cymru deithio am ddim, tra derbynnir mytravelpass hefyd. Mae prisiau sengl oedolion yn dechrau o £1.50.
- Mae archebion dros y ffôn ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 7am a 7pm a dydd Sul rhwng 10am a 2pm.