Skip to main content

fflecsi Machynlleth expands to Dyfi Valley

22 Medi 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ehangu gwasanaeth fflecsi Machynlleth ar draws Dyffryn Dyfi, gan alluogi mwy o gymunedau ym Mhowys a Gwynedd i elwa ar drafnidiaeth hyblyg sy'n ymateb i alw.

Bydd y rhwydwaith gwell, sy'n cael ei lansio ym mis Hydref 2026, yn cyflwyno cerbyd fflecsi ychwanegol, gan ymestyn y gwasanaeth y tu hwnt i Ddyffryn Dulas ac yn disodli llwybr bws B36 gydag opsiwn hyblyg.

Bydd yr ehangiad yn cysylltu cymunedau gan gynnwys Llanwrin, Glantwymyn, Cemmaes, Aberangell, Mallwyd a Dinas Mawddwy, yn ogystal ag Aberhosan, Tal-y-wern, Darowen ac Abercegir.

Bydd teithwyr hefyd yn gallu cysylltu â gwasanaethau TrawsCymru T2 a T28, sy'n cynnig teithio cyfleus rhwng Aberystwyth a Bangor.

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng TrC, Cyngor Sir Powys, Cyngor Gwynedd a Lloyds Coaches, wedi'i gynllunio i wella cysylltedd mewn cymunedau gwledig a darparu gwell mynediad at gyfleoedd swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden.

Dywedodd Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth:"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru wledig, ac mae'r gwaith o ehangu'r gwasanaeth fflecsi i Ddyffryn Dyfi yn enghraifft wych o'r uchelgais hwnnw ar waith.

"Drwy gysylltu mwy o gymunedau ym Mhowys a Gwynedd â thrafnidiaeth hyblyg, rydym yn helpu pobl i gael mynediad at swyddi, gwasanaethau hanfodol a chyfleoedd hamdden a fyddai fel arall y tu hwnt i'w cyrraedd. Rydym yn falch o gefnogi'r bartneriaeth hon rhwng Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Lloyds Coaches, ac edrychwn ymlaen at weld y manteision a ddaw yn sgil hyn i drigolion ledled Canolbarth Cymru."

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn TrC: “Mae'r ehangiad hwn o wasanaeth Dyffryn Dulas yn gam pwysig arall wrth wella trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cymunedau gwledig ar draws Canolbarth Cymru.

“Drwy ymestyn y rhwydwaith i Ddyffryn Dyfi, rydym yn rhoi mynediad i fwy o bobl at drafnidiaeth hyblyg a dibynadwy sy'n helpu i'w cysylltu â swyddi, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill.

“Mae trafnidiaeth sy'n ymateb i alw yn chwarae rhan bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy integredig a hygyrch, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni'r gwelliannau hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach: “Bydd ehangu'r gwasanaeth fflecsi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar draws Powys drwy helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, mewn ffordd sydd hefyd o fudd i'r amgylchedd.

Rwy'n annog trigolion i ddod i'n gweld ym Marchnad Machynlleth. Bydd y tîm wrth law i ddangos sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, egluro'r broses archebu ac ateb unrhyw gwestiynau.”

Er mwyn hyrwyddo’r rhwydwaith gwell, bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys, Lloyds Coaches, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn bresennol ym Marchnad Machynlleth ar 23 a 30 Medi rhwng 09:30 a 15:00. Gwahoddir trigolion i ddod draw i gael gwybod mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

I archebu taith ar y gwasanaeth newydd, lawrlwythwch yr ap fflecsi neu ffoniwch y tîm ar 0300 234 0300.

Gellir archebu teithiau ymlaen llaw neu ar y diwrnod, yn dibynnu ar argaeledd. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg chwe diwrnod yr wythnos, gydag oriau wedi’u teilwra i’r galw lleol.

Nodiadau i olygyddion


Mae fflecsi wedi’i gynllunio i ddisodli neu ategu llwybrau bysiau rheolaidd, ond yn hytrach nag amserlenni ac arhosfannau sefydlog, mae bysiau fflecsi yn codi ac yn gollwng teithwyr o fewn ardal wasanaeth ddynodedig, yn seiliedig ar archebion a wneir drwy’r ap neu dros y ffôn gyda’n canolfan alwadau ddwyieithog a chyfeillgar. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio technoleg i gynllunio llwybrau bysiau yn ddeinamig yn unol â galw teithwyr.

Llwytho i Lawr