01 Hyd 2026
Bydd prif gam y gwaith o adeiladu pont droed newydd sbon heb risiau yng ngorsaf drenau Cathays yn dechrau ym mis Hydref ar ôl cwblhau gwaith cychwynnol yn yr ardal ynghyd a gwaith yn dargyfeirio ceblau.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach ar fin symud i'r cam nesaf o'r gwaith, gan osod sylfeini ar gyfer y bont droed 'Mynediad i Bawb' newydd. Bydd teithwyr yn sylwi ar fwy o waith yn cael ei wneud o amgylch yr orsaf o fis Hydref ymlaen wrth i'r gwaith ar y bont newydd fynd rhagddo.
Bydd y bont droed newydd yn darparu mynediad heb risiau, gwell llwybrau cerdded, a chysylltiad uniongyrchol â Chanolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Bydd y bont droed bresennol yn cael ei symud a'i disodli, a disgwylir y bydd y bont droed a'r grisiau newydd agor i gwsmeriaid yn Haf 2027.
Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o raglen ehangach Metro De Cymru, gan gefnogi ymrwymiad TrC i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth fwy dibynadwy, cyflymach, gwyrddach a mwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru.
Dywedodd Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: "Mae'r buddsoddiad hwn yng ngorsaf Cathays yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Nid nodwedd ychwanegol yw mynediad heb risiau; mae'n hanfodol er mwyn sicrhau bod pob teithiwr, myfyriwr a'r gymuned ehangach yn gallu defnyddio ein rheilffyrdd yn hyderus ac yn annibynnol.
"Mae disodli'r hen bont droed yn Cathays wedi bod yn ymrwymiad hirdymor ac rwy'n falch iawn o weld hyn yn symud yn ei flaen ac rwy'n gwybod y bydd y bont newydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bawb sydd angen croesi'r rheilffordd i gyrraedd y brifysgol neu ganol y ddinas."
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: "Mae'r prosiect hwn yn symud yn ei flaen yn dda ac yn nodi cam pwysig arall yn ein hymrwymiad i wella hygyrchedd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
"O'i gwblhau, bydd y bont droed a'r lifftiau newydd yn gartref i orsaf fodern, heb risiau, gan wasanaethu teithwyr, myfyrwyr a'r gymuned leol yn well."
Dywedodd Alex Phillips, Rheolwr y Rhaglen: "Wrth i ni symud tuag at y prif gam o'r gwaith adeiladu, bydd cwsmeriaid yn dechrau gweld mwy o weithgarwch ar y safle wrth i ni baratoi i osod y bont a'r lifftiau hygyrch newydd."
Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig i wella hygyrchedd yn Cathays a chefnogi'r gymuned ehangach, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf."
Nodiadau i olygyddion
Bydd gorsaf Cathays yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith. Gan weithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, mae TrC wedi cynllunio'r rhaglen fel ei bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau trenau, ar gwsmeriaid, y myfyrwyr a'r gymuned leol. Caiff unrhyw newidiadau dros dro i drefniadau mynediad i'r orsaf eu cyhoeddi ymlaen llaw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru fel rhan o rhaglen ‘Mynediad i Bawb’.
Lluniau artist gan Centregreat/TrC