Skip to main content

Work begins to transform Llandudno railway station

15 Ion 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gwneud gwaith i ailwampio gorsaf drenau Llandudno er mwyn i fenter gymdeithasol ei defnyddio.

Llandudno ydy un o’r gorsafoedd cyntaf i gael eu hadnewyddu fel rhan o Brosiect Gwella Gorsafoedd TrC, sy’n nodi mannau gwag mewn gorsafoedd y gellir eu defnyddio unwaith eto at ddibenion cymunedol a menter.

Bydd ystafell wag yn nhu blaen gorsaf Llandudno yn cael ei hadnewyddu i greu lle i Creu Menter – sefydliad nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar helpu pobl leol i gymryd rhan mewn mentrau cyflogaeth.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n rhaglen waith uchelgeisiol i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Bydd y mannau sy’n cael eu creu yn rhoi’r rhwydwaith rheilffyrdd wrth galon ein cymunedau ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld rhagor o gynnydd yn cael ei wneud."

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi mentrau newydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Rydym yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac mae’r rheilffyrdd yn rhan allweddol o’r gwaith ailddatblygu lleol a chefnogi prosiectau cymunedol. Drwy weithio gyda thenantiaid a datblygu mannau gwag, rydyn ni’n gwneud ein gorsafoedd yn lleoedd mwy diogel a chroesawgar hefyd.

“Bydd yr hyn mae Creu Menter yn ei wneud fel sefydliad wir yn helpu’r gymuned.”

Bydd gweithgareddau Creu Menter yn yr orsaf yn cynnwys caffi swyddi a chymorth chwilio am swydd, rhaglen hyfforddiant Barod am Waith, cyngor ar leoliadau gwaith a gwirfoddoli, a sesiynau meithrin sgiliau.

Bydd hefyd yn gofalu am y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar gyfer Dyffryn Conwy, gan ymestyn i Ynys Môn a chyrraedd mwy o gymunedau yng Nghymru.

Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Partneriaethau (Gwerth Cymdeithasol) yn Creu Menter: “Rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith wedi dechrau i drawsnewid gorsaf drenau Llandudno yn ganolfan gymunedol sydd ar gael i bawb.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau darparu ein gwasanaethau yn y ganolfan mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy, gan gynnwys cymorth chwilio am swydd, cyfleoedd dysgu, a chyngor a chanllawiau ar faterion tenantiaeth.

“A ninnau’n fenter gymdeithasol rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl leol i ddatblygu ac i ffynnu, ac rydyn ni’n hyderus y bydd y ganolfan yn datblygu’n gyflym i fod yn siop un stop boblogaidd a dibynadwy ar gyfer anghenion cyflogaeth, tenantiaeth a chymorth y gymuned.”

Nodiadau i olygyddion


Pictured outside Llandudno station is Karen Williams, Transport for Wales Community Rail Officer for the Conwy Valley and North West Wales Coast Partnership.