Skip to main content

Work begins on new station at Bow Street

13 Ion 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gweithio ar yr orsaf reilffordd £8 miliwn newydd yn Bow Street yng Ngheredigion.

Bydd yr orsaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, yn agor i deithwyr yn 2020, a bydd yn cynnwys cyfleusterau parcio a theithio, mannau storio beics a chyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol. TrC, Network Rail a Chyngor Sir Ceredigion sy'n cyflwyno’r cynllun.

Mae’r orsaf newydd wedi’i hariannu'n rhannol gan yr Adran Drafnidiaeth drwy’r Gronfa Gorsafoedd Newydd, a bydd yn cynnig cysylltiad â’r rhwydwaith rheilffordd genedlaethol i gymuned Bow Street am y tro cyntaf ers i’r hen orsaf gael ei chau yn 1965.  Bydd yn trawsnewid trafnidiaeth i drigolion yr ardal, ac yn cynnig cysylltiadau ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol.  Drwy gynnig ffordd arall o deithio, bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd lleol, gan gefnogi’r agenda cynaliadwyedd.

Mae’r orsaf wedi'i lleoli’n agos at y Campws Arloesi ac Ymchwil y DU sy’n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Aberystwyth, felly bydd yn darparu mynediad rhwng y safle a phrif gampws y Brifysgol yn Aberystwyth ei hun.

Trenau ar Lein y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig fydd yn defnyddio’r orsaf, a hwn fydd y cyntaf o blith nifer o welliannau i wasanaethau ar y lein fel rhan o waith TrC i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Bydd Bow Street yn elwa o gyflwyno trenau newydd sbon a gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener o 2022, a bydd gorsafoedd eraill ar hyd y lein yn elwa o fuddsoddiad fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd £194 miliwn TrC.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yn cynnwys agor gorsafoedd newydd a gwella cysylltedd ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Dyma gam cyntaf cyflawni’r uchelgais honno. Bydd Gorsaf Bow Street yn gwella cysylltiadau at gyfleusterau cyflogaeth, busnes, addysg a hamdden yng Nghanolbarth Cymru.

“Rydym wedi bod yn glir am yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi mwy, felly rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan yr Adran Drafnidiaeth, sy’n sefyll ochr yn ochr â’n cyllid ni. Edrychwn ymlaen at weithio mwy ar y cyd a chael mwy o gyllid gan Lywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd o dan y setliad datganoli cyfredol, i wella seilwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rwy’n falch iawn fod gwaith wedi dechrau ar yr orsaf newydd yn Bow Street am ei fod yn rhan bwysig o’n cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru. 

“Hon yw’r orsaf gyntaf i ni ei hadeiladu ers i ni ymgymryd â’r gwaith o redeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ac rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag o leiaf pum cynllun arall, sy’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn cysylltu cymunedau ledled Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd.”

Dywedodd Claire Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol:

“Bydd prosiect Cyfnewidfa Bow Street yn golygu bod y rheilffordd yn fwy hygyrch i deithwyr ledled y sir a bydd yn lleihau’r tagfeydd ar ffyrdd yr ardal, a bydd hynny’n lleihau allyriadau carbon sydd wrth gwrs yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd. Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ers ei sefydlu, ac mae’n edrych ymlaen at yr agoriad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.”

Nodiadau i olygyddion


Dyfyniadau Ychwanegol

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai:

“Mae adeiladu’r cyfleuster Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn Bow Street yn cyd-fynd yn glir â phob un o’r pedair blaenoriaeth strategol a nodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. Nod y rhain yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer dinasyddion Ceredigion ac mae’r cynllun yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn barod gan y cyngor i ddarparu mynediad mwy cynaliadwy i Aberystwyth a thu hwnt.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge:

“Bydd y cynllun aml-foddol hwn yn helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth yma yng ngogledd Ceredigion ac yn cynnig cyfleuster Teithio Llesol y mae angen mawr amdano sy’n tynnu cerbydau oddi ar y ffyrdd prysur i mewn i Aberystwyth ac yn ein helpu i leihau’r allyriadau carbon yn ein rhan ni o’r byd.

“I mi, mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Bow Street yn benllanw blynyddoedd o waith caled gyda nifer o bartneriaid a’r gymuned gyfan i adfer cyfleuster sy’n hanfodol i ni yma ar arfordir gorllewin Cymru. Rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi helpu i baratoi’r cais, ac i’r cyrff ariannu amrywiol sydd wedi cytuno ei bod hi’n werth buddsoddi yn ein cynllun busnes.”