Skip to main content

Transformation of the Welsh transport network continues - despite Covid 19 challenges

22 Hyd 2020

Yng nghyd-destun heriau digynsail Covid-19, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Keolis ac Amey wedi cymryd y camau cyntaf tuag at ailddiffinio’r partneriaeth a gychwynnwyd yn 2018, a fydd yn sicrhau bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn parhau i gael ei drawsnewid.

Cyhoeddodd TrC, Keolis ac Amey eu bod wedi dod i gytundeb a fydd yn arwain at weithredu model cyllido a gweithredol newydd. Bydd y manylion terfynol yn cael eu cwblhau yn ystod y misoedd nesaf. Croesewir y cytundeb hwn gan Lywodraeth Cymru a TrC, sydd bellach gyda gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cyflawni eu hamcanion uchelgeisiol ar gyfer rheilffyrdd, er gwaethaf effeithiau Covid-19, a gyda Keolis ac Amey, a fydd yn parhau i gyfrannu eu harbenigedd rhyngwladol-enwog i sicrhau'r trawsnewidiad er gyfer teithwyr yng Nghymru.

O dan y cytundeb newydd, bydd is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo cyhoeddus, yn rhedeg y gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd.

Mae'r cytundeb hefyd yn sicrhau bod prosiectau allweddol sy'n anelu at drawsnewid profiad teithwyr, gan gynnwys darparu cerbydau newydd sbon a Metro De Cymru,yn parhau i elwa ar gymorth KeolisAmey.. Yn ogystal, bydd Seilwaith AmeyKeolis yn parhau i gyflawni’r gwaith cyffrous o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ynghyd â’u cynnal a chadw.

Bydd KeolisAmey hefyd yn partneru gyda TrC i wella profiad cwsmeriaid yn sylweddol drwy docynnau integredig a systemau trafnidiaeth ar-alw.

Yn olaf, o dan y trefniadau newydd, byddwn hefyd yn galw ar arbenigedd rhyngwladol sylweddol Keolis ac Amey i gynghori a chefnogi ar draws amrywiaeth ehangach o feysydd symudedd.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rwy’n falch o’r cytundeb hwn, a fydd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i barhau i drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau dros gyfnod eithriadol o anodd i’r diwydiant, a welodd ostyngiad enfawr mewn niferoedd teithwyr a refeniw. Mae KeolisAmey wedi gwneud cyfraniad sylweddol at drafnidiaeth yng Nghymru dros y ddwy flynedd diwethaf ac rwyf wedi croesawu eu dull gweithredu ar y cyd i sicrhau’r cytundeb hwn, sydd wedi caniatáu i ni gyflawni ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer contract Cymru a’r Gororau. 

 “Byddwn yn parhau i elwa ar arbenigedd diwydiant rhyngwladol Keolis ac Amey gan roi mwy o reolaeth i TrC a Llywodraeth Cymru gyflawni ein hamcanion trafnidiaeth allweddol, wrth i ni geisio cynnal cynnydd da’r rhwydwaith rheilffyrdd a sicrhau ei fod yn chwarae rhan hollbwysig o ran helpu Cymru i fod mewn sefyllfa dda mewn amgylchedd ar ôl y pandemig.”

 “Does dim dwywaith y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol wrth i ni addasu i realiti cyfnod ar ôl Covid, ond bydd y partneriaeth hwn yn rhoi sylfaen sefydlog i ni ailadeiladu’n well.”

 Dywedodd Kevin Thomas, Prif Weithredwr KeolisAmey Cymru, Gweithredwr a Phartner Datblygu Trafnidiaeth Cymru:

“Bydd teithwyr a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu bob amser wedi bod wrth wraidd ein partneriaeth â TrC - gan ddod o hyd i’r atebion cywir i wella gwasanaethau ledled Cymru a’r gororau.

“Yn sgil Covid-19, rydym yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru sefydlu ffordd gynaliadwy ymlaen er mwyn cyflawni ei hamcanion uchelgeisiol ar gyfer y rheilffyrdd; rydym yn falch ein bod wedi cytuno a rhoi egwyddorion cadarn ar waith wrth i ni weithio ar fanylion y cytundeb newydd hwn.

Mae llawer wedi’i gyflawni yn y ddwy flynedd ers i KeolisAmey ddechrau gweithio fel gweithredwyr masnachfraint Cymru a’r Gororau. Cyn Covid-19, roedd mwy o drenau’n rhedeg yn amlach nag erioed o’r blaen ar y rhwydwaith, gyda gwelliannau cyson o ran perfformiad a phrofiad teithwyr. Rydym wedi llwyddo i gyflwyno trenau mwy modern a dibynadwy ar draws y rhwydwaith, ac wedi cyflawni’r gwaith ar gyfer cyflwyno trenau newydd o 2021/22 - i Gymru’n unig a chefnogi gwelliannau pellach o ran amlder gwasanaethau ar draws llwybrau cymudo hanfodol. Un o ganlyniadau pwysig y llwyddiannau mawr hyn fu creu swyddi, sgiliau a phrentisiaethau cynaliadwy i gefnogi pobl ac economi Cymru.

 Mae Keolis ac Amey yn benderfynol o gyflawni’r gwelliannau, a chwarae rhan bwysig yn y weledigaeth i drawsnewid ac ychwanegu gwerth drwy ein profiad a’n harbenigedd rhyngwladol. Rydym hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfle cyffrous i ddangos y sgiliau ychwanegol y gallwn ni eu hychwanegu at brosiectau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda TrC ar gam nesaf y gwaith cyffrous o drawsnewid a fydd yn gwella trafnidiaeth, yn cysylltu cymunedau ac yn cefnogi ffyniant.”

 I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad a wnaed heddiw, cysylltwch â media@tfw.wales

Nodiadau i olygyddion


  1. O dan y partneriaeth newydd, bydd is-gwmni Trafnidiaeth Cymru yn cael ei sefydlu, a fydd â chyfrifoldeb gweithredol dros ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yn ddiogel ac yn ddibynadwy ar gyfer pobl a chymunedau Cymru a’r Gororau. Bydd yr is-gwmni hwn, er ei fod ym mherchnogaeth lwyr TrC ac yn cael ei reoli ganddo, yn gweithredu o dan ei drwydded a’i gymeradwyaeth ei hun, ac yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd annibynnol yn ei rôl fel rheoleiddiwr y diwydiant rheilffyrdd yn y DU. Disgwylir y bydd yr is-gwmni hwn yn cymryd y cyfrifoldeb dros y gweithrediadau rheilffyrdd gan Gweithrediadau Keolis Amey Cyf. ym mis Chwefror 2021 yn dilyn proses drosglwyddo wedi’i rheoli.
  1. Mae KeolisAmey wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd KeolisAmeyyn gweithio ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru ar ddarparu, cyflwyno a manylebau cerbydau yn ogystal â manteisio ar arbenigedd rhyngwladol Keolis mewn meysydd fel tocynnau integredig, systemau trafnidiaeth ar-alw, dyluniad a darpariaeth ar draws dulliau teithio a'r gwaith parhaus o integreiddio rheilffyrdd ysgafn a thrwm.
  1. Mae Seilwaith AmeyKeolis ("AKI") yn fenter ar y cyd sydd â phwrpas arbennig a ffurfiwyd i gyflawni’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ynghyd â rheoli seilwaith a chynnal a chadw Llinellau Craidd y Cymoedd. Y prif bartner yn y fenter ar y cyd hon yw Amey, un o brif ymgynghorwyr peirianneg a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus y DU. Bydd AKI yn parhau i ddarparu gwasanaethau rheoli asedau hyblyg, atebion peirianneg a chynllunio trafnidiaeth integredig sydd wedi’u dylunio ar gyfer anghenion y cymunedau lleol nawr ac yn y dyfodol yn ogystal â chyflawni’r gofynion seilwaith ar gyfer trawsnewid rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.