31 Ion 2024
Anogir teithwyr i wirio cyn teithio gan y bydd gwaith adnewyddu trac, trydaneiddio a gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Network Rail yn gweithio ar raglen uwchraddio seilwaith; cynhelir y mwyafrif o’r gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae'r rhaglen waith hon yn cynnwys uwchraddio seilwaith hanfodol ar gyfer Metro De Cymru a gwaith cynnal a chadw hanfodol arall ein rhwydwaith.
“Rydym yn deall y gall y gwasanaethau bws yn lle trên fod yn rhwystredig iawn i gwsmeriaid ac rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid a gwasanaethau.
“Mae ein gwasanaeth bws yn lle trên yn un cynhwysfawr – rydym yn awyddus i gadw pobl i symud tra gwneir y gwaith. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio gwefan neu ap symudol TrC i gael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.”
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau: “Bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn helpu i wneud y llwybr yn fwy cydnerth cyn tymor prysur yr haf.
“Rydym yn cydnabod nad oes byth amser da i gau'r rheilffordd, ond rydym wedi cynllunio'r gwaith i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar ein gwasanaethau.
“Hoffwn ddiolch i deithwyr am eu hamynedd a'u hannog i wirio cyn teithio.”
Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar gael yn ystod yr holl waith isod oni nodir yn wahanol.
Mis Chwefror
- Rhwng Wrecsam – Bidston ar ddydd Sul 4, dydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Chwefror.
- Rhwng Amwythig a Birmingham New Street ddydd Sul 4.
- Amwythig a Chaer ddydd Sadwrn 10 (ar ôl 6.15pm) a dydd Sul 11.
- Rhwng Caerdydd a Phenarth/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr yn teithio ar hyd lein Bro Morgannwg ddydd Sul 4 tan 12.25pm.
- Rhwng Caerdydd/Casnewydd a Glynebwy drwy'r dydd ar dri Sul yn olynol 11, 18 a 25.
- Rhwng y Drenewydd a Machynlleth ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18. Bydd rhai gwasanaethau rheilffordd yn dechrau/gorffen yn Amwythig.
- Rhwng y Rhyl a Chaergybi ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18. Yn cynnwys cangen Llandudno a lein Dyffryn Conwy.
- Pontypridd ac Aberdâr (tan yn hwyr yn y bore) Sul 18 tan yn hwyr yn y bore.
- Canol Caerdydd a Rhymni (yn gynnar yn y bore), Caerffili (trwy'r dydd) a Radyr drwy Cathays (drwy'r dydd) ar ddydd Sul 25.
- Rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd dydd Sul 25. Bydd Bws Caerdydd yn derbyn tocynnau trên.
- Rhwng Caerfyrddin/Hwlffordd ac Aberdaugleddau rhwng dydd Llun 26 a dydd Iau 29. Y bwriad yw y bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar gael rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau ar 26 -27 Chwefror rhwng 9.25am a 2.35pm, a rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau yn ystod yr un oriau ar 28 -29 Chwefror.
- Rhwng Llanwrtyd a Llanelli rhwng dydd Llun 26 a dydd Gwener 1 Mawrth. Bydd y gwasanaeth bws y lle trên yn dechrau ac yn gorffen yn yr Amwythig a bydd rhai gwasanaethau'n ymestyn neu'n dechrau yn Llandrindod a bydd rhai gwasanaethau'n dechrau ac yn gorffen yn Llanymddyfri.
Mis Mawrth
- Rhwng Caerdydd Canolog a Chaerffili, Radyr trwy Cathays, Penarth a Bae Caerdydd (Bws Caerdydd yn derbyn tocynnau trên) trwy'r dydd rhwng dydd Gwener 1 a dydd Llun 4.
- Rhwng Canol Caerdydd a Rhymni (yn gynnar yn y bore a hwyr y nos) ar ddydd Sadwrn 2 ac yn gynnar yn y bore ddydd Sul 3 a dydd Llun 4 yn unig.
- Canol Caerdydd a Radyr ar hyd lein y Ddinas Dydd Sadwrn 2 a Dydd Llun 4 (y ddau drwy'r dydd).
- Rhwng Caerdydd a Phenarth/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr yn teithio ar hyd lein Bro Morgannwg ddydd Sul 3 Mawrth (tan 12.25pm).
- Bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Pharcffordd Port Talbot ddydd Sul 3 Mawrth tra bydd peirianwyr Network Rail yn gwneud gwaith hanfodol yn adnewyddu'r trac. Ni fydd GWR yn rhedeg gwasanaeth trên rhwng Caerdydd ac Abertawe.
- Rhwng Trefyclo a Llandrindod ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth a dydd Sul 10 Mawrth. Mae bysiau'n ar waith o'r Amwythig a byddant yn teithio i mewn ac allan o Lanwrtyd.
- Canol Caerdydd a Radyr drwy Cathays dydd Sul 17 a dydd Sul 24 Mawrth (y ddau drwy'r dydd).
- Canol Caerdydd a Chaerffili a Bae Caerdydd ar ddydd Sul 24 a dydd Gwener 29 nes ddydd Llun 1 Ebrill (trwy'r dydd).
- Canol Caerdydd a Radyr trwy Cathays Dydd Gwener 29 nes dydd Llun 1 Ebrill (trwy'r dydd).
- Rhwng dydd Sul 17 a dydd Gwener 23 Mawrth rhwng Penfro a Doc Penfro. Bydd bysiau'n dechrau ac yn gorffen yng Nghaerfyrddin.
- Rhwng y Rhyl a Chaergybi ar ddydd Sadwrn 23ain. Yn cynnwys cangen Llandudno a lein Dyffryn Conwy.
- Hefyd, effeithir ar y gwasanaethau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe ar bob dydd Sul yn olynol ym mis Mawrth (17 a 24), gyda gwasanaeth bws yn lle trên wedi'i drefnu yn lle'r gwasanaethau trên rhwng Caerdydd/Y Rhws (ar reilffordd Bro Morgannwg) ac Abertawe (gan gynnwys cangen Maesteg. Bydd y bysiau yn dechrau/gorffen eu taith yng Nghaerdydd).
- Llinell Glynebwy (bore yn unig) ar 23 Mawrth/
I gael rhagor o wybodaeth am waith Metro De Cymru ewch i Newidiadau Gwasanaeth Metro | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Am ragor o wybodaeth am y gwaith a gynlluniwyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau ewch i Gwaith Trwsio Rheilffyrdd | Amhariadau a Gynlluniwyd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)