29 Mai 2026
Mae teithwyr yn cael ei hysbysu y bydd gwaith peirianyddol hanfodol yn cael ei wneud ar y rheilffordd yng Ngogledd Cymru rhwng gorsafoedd Caer a Chyffordd Llandudno rhwng oriau mân ddydd Sadwrn 6 Mehefin ac yn ail agor oriau mân ddydd Llun 8 Mehefin.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y rheilffordd ar gau fel y gall y timau wneud gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio pwysig fel rhan o waith uwchraddio parhaus Rhwydwaith Gogledd Cymru ac yn sgil yr amserlen newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar,
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio a'i partneriaid yn y diwydiant, Network Rail ar amrywiaeth o welliannau dros y penwythnos mewn amrywiaeth o ardaloedd, gan gynnwys:
- Y Fflint: Gwella'r system ddraenio er mwyn lleihau risg llifogydd a gwella cydnerthedd hirdymor y rheilffordd
- Pensarn: Paratoi safle ar gyfer gwaith a gosod y sylfeini cyn mynd ati i adeiladu pont droed hygyrch newydd
- Y Rhyl (nos Sadwrn yn unig) – Gosod trawstiau newydd i gynnal ansawdd y trac ac i wneud teithiau yn fwy esmwyth ac yn fwy dibynadwy i deithwyr
Yn ystod y cyfnod hwn, dylai teithwyr nodi:
- Ni fydd trenau yn rhedeg rhwng Caer a Chyffordd Llandudno yn ystod y cyfnod gwaith
- Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith i gadw teithwyr i symud
Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o fuddsoddiad parhaus yn rheilffordd Gogledd Cymru ac maent yn hanfodol er mwyn gallu:
- Cynnal dibynadwyedd yn dilyn y cynnydd diweddar yn y gwasanaeth yn sgil yr amserlen, gan alluogi teithwyr i fanteisio ar 50% o wasanaethau trên ychwanegol
- Helpu i wneud gwelliannau o ran hygyrchedd i deithwyr yn y dyfodol
- Cadw'r rheilffordd yn ddiogel ac yn gydnerth i staff, teithwyr ac i'r gwasanaethau cludo nwyddau
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn annog y rheini sy'n teithio rhwng Cyffordd Llandudno a Chaer i wirio cyn teithio dros y penwythnos. Gan na fydd unrhyw drenau yn rhedeg rhwng y gorsafoedd hyn, bydd ein gwasanaethau trên i Faes Awyr Manceinion, Caerdydd Canolog a Lerpwl Lime Street yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghaer, tra bydd gwasanaethau o Gaergybi yn dod i ben yng Nghyffordd Llandudno
Bydd y gwasanaeth bws yn lle trên ar waith rhwng gorsafoedd Cyffordd Llandudno a Chaer ar waith tua bob hanner awr ar y dydd Sadwrn a phob awr ar y dydd Sul. Hefyd, bydd cwmni bysiau Arriva yn derbyn tocynnau trên. Cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith a chofio gwirio cyn teithio gan ddefnyddio ein gwefan neu ap”.
Anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a gwirio eu taith cyn teithio yn www.trc.cymru