08 Mai 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i gyflawni'r gwaith o drawsnewid lein Bae Caerdydd, wrth ddatblygu gorsaf newydd gyda dau blatfform yng ngogledd Trebiwt yn ogystal ag ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd.
Fel rhan o Metro De Cymru, bydd lein y Bae hefyd yn cael ei thrydaneiddio er mwyn caniatáu gwasanaethau amlach a chyflwyno trenau trydan newydd sbon.
Bydd lein Bae Caerdydd yn cau o ddydd Sadwrn 10 Mai i ddydd Sul 25 Mai fel y gall timau wneud gwaith peirianneg i gyflawni'r trawsnewidiad. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd unrhyw wasanaethau'n rhedeg rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd. Ni fydd y gwasanaeth sydd fel arfer yn rhedeg bob hanner awr rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yn rhedeg yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: “Bydd trawsnewid Lein y Bae yn cynrychioli’r uwchraddiad mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Trebiwt a Bae Caerdydd a welwyd mewn cenhedlaeth ac mae'n rhan bwysig o Metro De Cymru.
"Bydd y rownd hon o waith peirianneg yn gam pwysig yn y gwaith o gyflawni'r prosiect, wrth i ni wneud cynnydd ar ddatblygu gorsaf newydd sbon yn Nhrebiwt ac ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd."
“Bydd timau hefyd yn brysur yn gosod y gwifrau newydd ar gyfer yr offer llinellau uwchben yn ystod y cyfnod pan fydd y lein ar gau fel y gallwn redeg y trenau tram newydd sbon.
“Hoffwn ddiolch i'n cwsmeriaid a'n cymdogion sy'n byw wrth ymyl y rheilffordd am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn. Sicrhewch eich bod yn gwirio cyn teithio yn ystod y cyfnod hwn."
Tra bod timau'n gwneud y gwaith peirianneg, bydd cledrau newydd yn cael eu gosod ar lein Bae Caerdydd sy'n rhedeg i mewn i blatfform 2 newydd yng ngorsaf Bae Caerdydd. Bydd hyn yn cymryd lle’r platfform 1 presennol sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau sy'n mynd o Gaerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd, hyd nes y bydd prosiect trawsnewid lein y Bae wedi'i gwblhau. Bydd timau hefyd yn gwneud gwaith gosod seilbyst yng ngorsaf newydd Trebiwt yn ystod y cyfnod pan fydd y lein ar gau.
O 26 Mai ymlaen, ni fydd cwsmeriaid bellach yn gallu cael mynediad i orsaf Bae Caerdydd o Stryd Bute i blatfform 1 Bae Caerdydd. Bydd cwsmeriaid yn cael eu dargyfeirio ar blatfform 2 newydd o ochr Rhodfa Lloyd George yr orsaf.
Bydd timau hefyd yn gwneud gwaith gosod seilbyst ac yn gosod y gwifrau newydd ar gyfer yr offer llinellau uwchben er mwyn rhedeg y trenau tram trydan newydd a fydd yn cael eu cyflwyno ar y lein. Gyda llinellau wedi’u trydaneiddio yn cael eu gosod ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru, gan gynnwys ar lein y Bae yn hwyrach eleni, hoffai TrC dynnu sylw’r cyhoedd at beryglon tresmasu ar y rheilffordd. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn ddifrifol, yn anghyfreithlon ac yn beryglus, a gallai'r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy o £1,000.
Gyda gwaith trydaneiddio yn parhau dros y misoedd nesaf, mae TrC yn annog y cyhoedd i ufuddhau i reolau tresmasu ac i gadw draw o unrhyw linellau sydd wedi’u trydaneiddio.
Yn ystod cyfnod cau’r lein, gall cwsmeriaid ddefnyddio eu tocynnau trên ar wasanaethau Bws Caerdydd heb unrhyw gost ychwanegol. Bydd rhai gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos rhwng gorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd. Ddydd Sadwrn 18 Mai, bydd rhai gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Radur a Bae Caerdydd. Mae TrC yn cynghori pob cwsmer i wirio cyn teithio.
Mae prosiect trawsnewid lein y Bae, sy'n rhan o’r gwaith ehangach o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro, wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Yn ystod cyfnod cau'r lein, ni fydd y gwasanaeth bob hanner awr rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yn rhedeg. Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i wirio cyn teithio.
Gall cwsmeriaid ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfnod cau a'r gwaith sydd ar y gweill ar Lein y Bae a Llinellau Craidd y Cymoedd ar-lein ar wefan TrC: Newidiadau i wasanaeth Metro | Trafnidiaeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch trawsnewid lein y Bae ar gael yma: trc.cymru/cwestiynaucyffredinbae