05 Meh 2025
Rhwng dydd Llun 9 Mehefin a dydd Gwener 13 Mehefin, bydd gwaith peirianyddol mawr yn digwydd rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd.
Bydd trenau yn dal i redeg ond byddant yn defnyddio'r traciau arafach ar y rhan hon o'r llwybr. O ganlyniad, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau trên prif lein De Cymru yn cael eu diwygio, gydag amser y gwasanaethau'n cael eu hymestyn.
Bydd gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chasnewydd hefyd yn brysurach nag arfer gan y bydd llai o wasanaethau yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Gan fod Twnnel Hafren hefyd ar gau 9 Mehefin - 20 Mehefin, dim ond trwy Gaerloyw ar y rhan hon o'r lein y bydd GWR yn rhedeg y gwasanaeth pob awr i Lundain. Cynghorir cwsmeriaid i wirio cyn teithio pob amser.
Nodiadau i olygyddion
Y Gororau
Bydd hyd y daith ar wasanaethau i gyfeiriad y de o Fanceinion Piccadilly, Caergybi, Caer, Crewe, Henffordd a'r Amwythig i Gaerdydd Canolog yn hirach rhwng Cwmbrân a Caerdydd Canolog.
Bydd gwasanaethau tua’r gogledd o Gaerdydd i’r cyrchfannau hyn yn gadael Caerdydd Canolog yn gynharach, gan ganiatáu iddynt redeg o’u hamseroedd gadael arferol o Gasnewydd ymlaen.
Ni fydd gwasanaeth 05:43 Abertawe i Fanceinion Piccadilly yn galw yn Craven Arms (08:25) na Church Stretton (08:34).
Glynebwy / Maesteg / Cheltenham
Bydd gwasanaethau Glynebwy i Gaerdydd Canolog yn cael eu dargyfeirio a hefyd yn galw yng Nghasnewydd gydag amser teithio hirach. Bydd trenau rhwng Caerdydd a Glynebwy yn gadael Caerdydd Canolog yn gynt nag arfer. Ni fydd y rhan fwyaf o wasanaethau Glynebwy yn teithio i Faesteg ac eithrio rhai gwasanaethau hwyr y nos.
Gorllewin Cymru
Effeithir ar lawer o wasanaethau yn ôl ac ymlaen o Orllewin Cymru (Abertawe, Caerfyrddin, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Harbwr Abergwaun).
Bydd rhai gwasanaethau'n cael eu had-drefnu ac amseroedd rhai yn cael eu hymestyn. Effeithir yn arbennig ar y gwasanaethau fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen o Abertawe, Caerdydd a Manceinion.
Ewch i'n tudalen we diwygiadau i wasanaeth i gael rhagor o fanylion am y gwaith.