- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Hyd 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trawsnewidiol ar gyfer Metro De Cymru gyda gwaith rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.
Bydd y rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd ar gau rhwng dydd Sadwrn 23 Hydref a dydd Mercher 27 Hydref er mwyn caniatáu i waith peirianyddol gael ei wneud, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon. Bydd gwasanaethau bysiau yn cymryd lle’r trên rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.
Mae'r trawsnewidiadau gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd hyn o Linellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd, gan gynnwys Merthyr Tudful.
Bydd y blocâd yn caniatáu i beirianwyr wneud gwaith cymhleth gan gynnwys ail-leoli signalau, gosod a phrofi offer newydd, dadfeilio, ailalinio'r trac a gosod y system cyfarpar llinell uwchben.
Oherwydd maint y gwaith paratoi sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod hwn pan nad yw trenau'n rhedeg, bydd yn golygu bod yn rhaid i ni weithio 24 awr y dydd. Mae casgliad mawr o bobl, cyfarpar a pheiriannau yn golygu na ellir osgoi cau'r rheilffordd.
Pan fyddant wedi'u gosod, bydd y llinellau uwchben yn pweru'r trenau tram newydd, a fydd yn lleihau amseroedd teithio rhwng Merthyr Tudful a chanol dinas Caerdydd ac yn caniatáu i TrC gynyddu amlder gwasanaethau i bedwar bob awr.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffordd TrC: “Mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr uwchraddiad mwyaf i isadeiledd Llinellau Craidd y Cymoedd i'r raddfa hon ers iddo gael ei adeiladu gyntaf, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach y mae pobl cymoedd De Cymru yn eu haeddu.
“Tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio'n gyfrifol trwy sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli'n dda a bod ein pobl yn ystyriol o'n cymdogion.”
Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.
Mae diweddariadau teithio a mwy o wybodaeth am Metro De Cymru ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys blog sy'n ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith o drawsnewid y Metro.