01 Tach 2024
Cyflawnwyd swm sylweddol o waith peirianneg dros gyfnod o naw diwrnod o gau rheilffyrdd wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) barhau i symud ymlaen i gyflawni camau nesaf Metro De Cymru.
Roedd cyfnod cau llinellau Merthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert rhwng Pontypridd a Radur yn ddiweddar (rhwng 27 Medi a 6 Hydref) wedi caniatáu i TrC fwrw ymlaen gyda’r gwaith ar y gorsafoedd, gwaith seilwaith a gwaith cynnal a chadw.
Roedd y darnau o waith allweddol yn cynnwys paratoi platfformau ar gyfer mynediad gwastad yng ngorsafoedd Pontypridd a Ffynnon Taf, cael gwared ar bont droed yn Nhrefforest i ganiatáu pont Mynediad i Bawb newydd a gwaith draenio hanfodol cyn tymor y gaeaf.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym yn falch ein bod wedi gwneud cynnydd pellach o ran cyflawni cam nesaf Metro De Cymru.
"Yn ystod y cyfnod cau naw diwrnod fe wnaethom gyflawni swm mawr o waith peirianyddol hanfodol ac rydym bellach yn edrych ymlaen at gyflwyno trenau newydd sbon i rwydwaith De Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
"Hoffem ddiolch i gwsmeriaid a chymdogion wrth ymyl y cledrau am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."
Nodiadau i olygyddion
Roedd y gwaith llawn yn cynnwys:
- Gwelliannau i'r gorsafoedd a'r seilwaith:
- Cafodd addasiadau mynediad gwastad eu gwneud i blatfformau 2 a 3 yng ngorsaf Pontypridd, ochr yn ochr â gwelliannau trac a signalau.
- Dymchwel a chael gwared ar y bont droed wreiddiol yng ngorsaf Trefforest a roddwyd i Reilffordd Dreftadaeth Gwili. Agor y grisiau ar y bont Mynediad i Bawb, newydd gyda'r lifftiau i agor ym mis Tachwedd.
- Gosod dros 300 metr o'r bont droed newydd sydd â ramp yng ngorsaf Fernhill, ochr yn ochr â 64 metr o waith gosod mynediad gwastad ar blatfform yr orsaf.
- 135 metr o waith gosod mynediad gwastad yng ngorsaf Ffynnon Taf, ochr yn ochr â 700 metr sgwâr o waith gosod wyneb newydd ar y platfform. Mae’r gwaith ar y bont droed Mynediad i Bawb newydd yn parhau, a fydd yn agor ddiwedd 2024.
- 66 o newidiadau a darnau o waith trwsio ar Offer Llinellau Uwchben ar draws y rhwydwaith yn barod ar gyfer cyflwyno trenau trydan newydd o fis Tachwedd ymlaen.
- Gwaith cynnal a chadw hanfodol:
- Mae gwaith hoelio pridd yn gweithio i gryfhau wal gynnal yn Nhroedyrhiw ar lein Merthyr.
- Gosod grisiau'r De ar bont droed Y Gelli ar lein Treherbert, a gafodd ei hailagor yn llwyddiannus ar ddydd Gwener 18 Hydref.
- Gwaith draenio hanfodol a chynnal cwteri ar draws y rhwydwaith er mwyn atal llifogydd.