Skip to main content

Work to begin on new Butetown railway station

15 Awst 2022

Yr hydref hwn, bydd y gwaith paratoi yn dechrau i adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Butetown ac ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cadarnhau cynlluniau i adeiladu gorsaf dau lwyfan newydd yng ngogledd Butetown, fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.

Bydd gorsaf bresennol Bae Caerdydd hefyd yn cael ail blatfform, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid a gwelliannau eraill. Bydd unrhyw ddiweddariadau a wneir i arwyddion yr orsaf yn ddwyieithog a byddant yn cael eu datblygu yn sgil y canllawiau yn ein pecyn cymorth brand gorsafoedd. 

O osod trac newydd, bydd modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd sbon, gydag amserlen newydd fydd ar waith o wanwyn 2024 ymlaen.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae prosiect trawsnewid Llinell y Bae yn rhan bwysig o Fetro De Cymru ac rydym yn falch iawn o allu dechrau gweithio ar yr orsaf newydd sbon yn Butetown cyn diwedd y flwyddyn.

“O 2024 ymlaen, byddwn yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mwy llyfn, gwyrddach a modern a fydd yn creu ystod o gyfleoedd i bobl sy’n byw yn Butetown ac ardal ehangach Bae Caerdydd.

“Rydym yn awyddus i weithio ar y cyd â thrigolion lleol trwy weithdai a sesiynau galw heibio.  Pleser yw gallu noddi Carnifal Butetown eleni.  Yno, gall pobl gael mwy o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y gwaith o drawsnewid Llinell y Bae.”

Roedd cynlluniau cychwynnol blaenorol ar gyfer gwelliannau i Linell y Bae yn cynnwys adeiladu gorsaf Metro yn Sgwâr Loudoun ac estyniad byr i The Flourish, a gafodd eu hadolygu ddiwedd 2020.

Daeth adolygiad a gynhaliwyd yn gynnar yn 2021 i’r casgliad y byddai adeiladu gorsaf drenau ymhellach i’r gogledd o Sgwâr Loudoun yn darparu gwell mynediad i gymuned ehangach Butetown.  Byddai hefyd yn caniatáu croesfan o’r dwyrain i’r gorllewin yn Sgwâr Loudoun, tra byddai cadw gorsaf Bae Caerdydd yn darparu gwell mynediad i amwynderau lleol.

Mae'r cynlluniau hyn i gyd-fynd â'r weledigaeth gydweithredol ehangach gan gynnwys gorsaf newydd ar Stryd Pierhead a'r opsiwn o ymestyn y llinell ymhellach.  Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni ynghylch opsiynau i ymestyn y llinell i Gaerdydd Canolog, ac i’r dwyrain tuag at Heol Casnewydd.

Mae trigolion Bae Caerdydd sy’n byw gerllaw’r rheilffordd wedi cael gohebiaeth ynghylch manylion y gwaith, a fydd yn dechrau yn yr Hydref gydag adeiladu compownd ar Rodfa Lloyd George. Byddwn yn gosod compownd adeiladu ar ochr y cledrau o Rodfa Lloyd George i helpu i reoli ein gwaith, storio deunyddiau a darparu cyfleusterau lles i weithwyr. 

Bydd gwaith yn dechrau ar adeiladu gorsaf reilffordd newydd Butetown o fis Rhagfyr eleni, gyda gwaith yn cael ei wneud i uwchraddio gorsaf Bae Caerdydd yn ystod y cyfnod hwn.  Bydd gorsaf Bae Caerdydd yn parhau i weithredu i deithwyr tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro o’r enw Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL).  Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.