15 Meh 2023
Fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsaf Trafnidiaeth Cymru (TrC), bydd gwaith i wneud gwelliannau i gyfleusterau cwsmeriaid yng ngorsafoedd y Fflint a Runcorn East yn dechrau y mis hwn.
Ddiwedd mis Mehefin, bydd gwaith yn dechrau ar nifer o uwchraddiadau er mwyn gwella profiad cyffredinol cwsmeriaid sy'n ymweld â gorsafoedd y Fflint a Runcorn East. Bydd y prosiectau'n canolbwyntio'n bennaf ar welliannau i gyfleusterau i gwsmeriaid yn y gorsafoedd gan gynnwys teledu cylch cyfyng, pwyntiau cymorth, llochesi cwsmeriaid a beiciau, seddi, goleuadau, cyfleusterau gwastraff, arwyddion a brandio. Bydd y gwaith a gaiff ei wneud yng ngorsaf y Fflint hefyd yn cynnwys gwella'r swyddfa docynnau, yr ystafelloedd aros gan gynnwys unedau ail-lenwi dŵr, adnewyddu toiledau, sgriniau CIS newydd a thirlunio.
Bydd TrC hefyd yn cwblhau Prosiect Datblygu Cymdeithasol a Masnachol i drawsnewid yr adeilad gwag sydd ar blatfform 1 yng ngorsaf y Fflint, gan greu dwy ystafell gymunedol newydd, ystafell i staff ac ystafell aros newydd i deithwyr. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar adnewyddu gofod sydd wedi'i danddefnyddio i greu gweithgaredd ychwanegol mewn gorsafoedd, gan wneud y defnydd gorau o le at ddibenion y gymuned a chyfleoedd masnachol.
Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd, “Mae’n newyddion gwych ein bod yn symud ymlaen a'r prosiect hwn. Mae'r gwelliannau hyn i'r orsaf yn cynnig manteision gwirioneddol i'r profiad a gaiff ein cwsmeriaid a'r rheini sy'n ymweld â gorsafoedd y Fflint a Runcorn East. Bydd y buddsoddiad yn yr adeilad gwag yng ngorsaf y Fflint yn gwella pryd a gwedd yr orsaf a bydd yn darparu mwy o gyfleoedd masnachol a chymunedol hefyd. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn y ddwy orsaf yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleusterau newydd, mwy modern a bydd wir yn gwella profiad cyffredinol y cwsmer.”
Mae TrC yn gweithio'n agos gyda'r contractwr Taziker, diwydiant a phartneriaid lleol ar y prosiect hwn a nod y gwelliannau hyn yw sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael gwell profiad wrth deithio.
Dywedodd Kim Hawkins, Rheolwr Gorsafoedd Grŵp, “Mae'r buddsoddiad hwn mewn cyfleusterau cwsmeriaid ledled ein gorsafoedd yn newyddion i'w groesawu ac rwy'n hyderus y bydd staff yn cefnogi ein cwsmeriaid a'n contractwyr ar y safle, er mwyn cadw unrhyw anghyfleustra i’r lleiafswm. Byddwn yn parhau i gydweithio i sicrhau bod ein gorsafoedd yn lleoedd diogel, hygyrch a chroesawgar i deithwyr."
Nod y gwelliannau hyn yw rhoi profiad llawer gwell i'n cwsmeriaid a bwriedir cwblhau'r gwaith hwn erbyn diwedd 2023. Mae TrC yn annog cwsmeriaid i ganiatáu mwy o amser nag arfer ar gyfer eu teithiau rhag ofn y bydd tarfu ar unrhyw un o'n gwasanaethau.
Nodiadau i olygyddion
Bydd TrC yn cynnal sesiwn ‘Cwrdd â'r Rheolwr’ yng ngorsaf y Fflint cyn bydd y gwaith yn dechrau. Dyma ddyddiad y sesiwn:
- Dydd Iau 22 Mehefin – 8.30am - 2pm