Skip to main content

South Wales Metro work to continue in the Cynon Valley

23 Awst 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trawsnewidiol ar gyfer Metro De Cymru gyda gwaith mawr i'w wneud yng Nghwm Cynon ddiwedd yr haf.

Bydd y rheilffordd rhwng Aberdâr ac Pontypridd ar gau rhwng dydd Sadwrn 28 Awst a dydd Sul 12 Medi er mwyn gwneud gwaith peirianneg trwm, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon. Bydd gwasanaethau bysiau newydd ar waith rhwng Aberdâr a Phontypridd.

Mae'r trawsnewidiad tri chwarter biliwn o bunnoedd o Linellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd, gan gynnwys Aberdâr.

Bydd y cau 16 diwrnod yn caniatáu i beirianwyr wneud gwaith cymhleth gan gynnwys ail-leoli signalau, gosod a phrofi offer newydd, dadfeilio, adlinio'r trac, a gosod y sylfeini ar gyfer gosod llinellau uwchben.

Mae maint y gwaith paratoi i'w gyflawni yn ystod y cyfnod hwn o 16 niwrnod pan na fydd trenau'n rhedeg yn golygu y bydd yn rhaid i ni weithio 24 awr y dydd.  Oherwydd y casgliad mawr o bobl, peiriannau a chyfarpar yn yr ardal, nid ydym wedi gallu osgoi gorfod cau'r rheilffordd.

Pan fyddant wedi'u gosod, bydd y llinellau uwchben yn pweru'r trenau tram newydd, a fydd yn lleihau amseroedd teithio rhwng Aberdâr a chanol dinas Caerdydd ac yn caniatáu i TrC gynyddu amlder gwasanaethau i bedwar bob awr.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffordd TrC: “Mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr uwchraddiad mwyaf i isadeiledd Llinellau Craidd y Cymoedd o'r raddfa hon ers iddo gael ei adeiladu gyntaf, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach y mae pobl cymoedd De Cymru yn eu haeddu.

“Tra bod gwaith yn digwydd, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio'n gyfrifol trwy sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli'n dda a bod ein pobl yn ystyriol o'n cymdogion.”

Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Metro ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys erthygl blog yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith trawsnewid Metro. Gellir gweld diweddariadau teithio ar gwefan Rheilffordd TrC.

Llwytho i Lawr