Skip to main content

Public invited to share views on Carmarthen Railway Station

21 Medi 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio ymgynghoriad a digwyddiad galw heibio fel rhan o gynlluniau i wella un o ganolfannau trafnidiaeth prysuraf De-orllewin Cymru.

Gwahoddir trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio gorsaf reilffordd Caerfyrddin i rannu eu barn fel rhan o ymgynghoriad newydd rhwng 21 Medi a 12 Hydref.

Bydd digwyddiad galw heibio yng Ngorsaf Reilffordd Caerfyrddin ar 24 Medi, rhwng 08:00 a 18:00, gan roi cyfle i rannu barn ac i ofyn unrhyw gwestiwn. 

Bydd yr adborth a gesglir drwy'r ymgynghoriad yn helpu TrC i ddeall profiadau teithwyr a nodi cyfleoedd i wneud teithiau rhwng gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus.

Mae gorsaf reilffordd Caerfyrddin yn ganolfan drafnidiaeth bwysig yn ne-orllewin Cymru, sy'n cysylltu Caerfyrddin â swyddi, addysg, gofal iechyd a chyfleoedd hamdden ledled Cymru a thu hwnt. Mae'n gyffordd drafnidiaeth bwysig rhwng gwasanaethau TrawsCymru a'r rhwydwaith rheilffyrdd ac mae'n un o'r gorsafoedd rheilffordd prysuraf yn y rhanbarth. 

Dywedodd Uwch Reolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerfyrddin, Nathaniel Owen: “Rydym ni wir eisiau clywed barn y bobl sy’n poeni fwyaf am orsaf reilffordd Caerfyrddin; y bobl sy’n ei defnyddio. Bydd eich barn yn ein helpu i lunio dyfodol yr orsaf fel porth i orllewin Cymru.

“Mae Gorsaf Caerfyrddin wedi bod yn lleoliad hynod bwysig i ni erioed, wrth gysylltu’r dref a’r gymuned ehangach â gwasanaethau rheilffordd tuag at Abertawe, Caerdydd, Manceinion a Llundain, yn ogystal â lleoliadau allweddol yn Sir Benfro.

Yn fwy diweddar, rydym ni wedi gweld datblygiad llwyddiannus gwasanaethau TrawsCymru i Aberystwyth ac oddi yno. Ac yn ddiweddarach eleni, byddwn ni’n lansio’r goets gyflym gogledd/de newydd sy’n cysylltu’r orsaf â Bangor. Felly dyma’n bendant yr amser iawn i ni ddeall pa benderfyniadau fyddai’n gwella profiad cyffredinol y cwsmer.” 

Gall aelodau o'r cyhoedd gwblhau'r arolwg ar-lein wrth fynd i: Arolygon agored | Trafnidiaeth Cymru neu fynychu'r digwyddiad galw heibio yng Ngorsaf Reilffordd Caerfyrddin ar 24 Medi i rannu eu barn yn bersonol.

Llwytho i Lawr