Skip to main content

£100,000 grant awarded to enhance biodiversity at railway stations and in communities

19 Maw 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael £100,000 gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd trenau ac wrth eu hymyl.

Bydd TrC yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn hyd at 22 o’i orsafoedd mewn ardaloedd lle mae gwelliannau mawr yn cael eu gwneud ar ei rwydwaith, gan gynnwys waliau gwyrdd, toeau gwyrdd, planhigion, basgedi crog, coed a chasgenni dŵr. Bydd cychod gwenyn, tai adar, blychau ystlumod, gwestai chwilod, tai i ddraenogod a thai buchod coch cwta hefyd yn cael eu cyflwyno i roi hwb i fioamrywiaeth leol.

Bydd TrC yn cefnogi prosiectau bioamrywiaeth lleol ar y cyd â phum partner cymunedol o fewn milltir i’w orsafoedd trenau. Bydd y cwmni’n gwella bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid mewn sawl gorsaf yn awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam. 

Dywedodd Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: 

“Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau’r effaith ar fioamrywiaeth leol y bydd gwaith ar draws ein rhwydwaith yn ei chael dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cyllid hwn gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a fydd yn ein galluogi i gydweithio â phartneriaid cymunedol i wella bioamrywiaeth leol ger ein gorsafoedd trenau.

“Byddwn yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau canolfannau cymunedol lleol, ysgolion, prosiectau cymunedol a grwpiau sy’n cynrychioli nodweddion gwarchodedig, a fydd yn allweddol i’n llwyddiant ar y cyd. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd yn cael effaith sylweddol ar fflora a ffawna lleol. 

“Mae’r llwyddiant hwn yn tynnu sylw at fanteision gweithio ar y cyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl dimau sy’n rhan o’r gwaith, gan gynnwys ein cydweithwyr yn Network Rail. Mae eu mewnbwn wedi cyfrannu at ein cais llwyddiannus am grant a fydd o fudd i gymunedau lleol.”

Dywedodd Gavin McAuley, Cydlynydd Gweithgareddau Awyr Agored y Cambrian Village Trust, Tonypandy: “Mae’r Cambrian Village Trust yn elusen amrywiol a chynhwysol sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored i helpu i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.

“Rydyn ni’n ffodus iawn o gael y cyfle hwn i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i helpu i warchod a diogelu ein bioamrywiaeth yn y CVT, ym Mharc Gwledig Cwm Clydach a ledled Canolbarth y Rhondda. Mae wedi bod yn rhan o’n cynllun hirdymor i greu ardal i dyfu planhigion, ffrwythau a llysiau a gweithio gyda’r gymuned i helpu i gynnal a chadw’r ardd hon. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i helpu i gynnal y parc ac i warchod y fflora a’r ffawna yn yr ardal. Drwy hyn, rydyn ni’n gobeithio datblygu grwpiau rheolaidd a fydd yn gallu darparu cynnyrch ffres i’r gymuned.”

Lottery Heritage Fund Logo-2
In partnership with Welsh Gov-2

Nodiadau i olygyddion


Bydd TrC yn cefnogi prosiectau bioamrywiaeth lleol ar y cyd â’r pum partner cymunedol canlynol o fewn milltir i’w orsafoedd:

  • Gweithio gyda’r Enbarr Foundation i ddatblygu darn gwag o dir wrth ymyl gorsaf Pont Penarlâg a’r ganolfan gymunedol.
  • Gosod planhigion y tu allan i Neuadd Bentref Ffynnon Taf.
  • Gweithio gyda’r Cambrian Village Trust i wella plot o dir ar hyd y llwybr sy’n arwain at orsaf Tonypandy a fydd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol a’i greu gan wirfoddolwyr Men’s Shed.
  • Gweithio gyda’r Bartneriaeth Natur Leol i ganfod cyfleoedd i blannu ar hyd y llwybr at orsaf Mynwent y Crynwyr.
  • Gweithio gyda grwpiau cymunedol i ddatblygu darn o dir yn Rhandiroedd Bron Fair, gyferbyn â gorsaf Maesteg.