Skip to main content

Stations looking better than ever thanks to £1 million investments in 2023

14 Meh 2023

Mae cwsmeriaid rheilffyrdd ledled Cymru a gorsafoedd y gororau yn Lloegr wedi elwa o dros £1 miliwn o fuddsoddiadau eleni, gydag arwyddion, lloriau a chyfleusterau aros i gwsmeriaid wedi cael eu hadnewyddu.

Mae’r gwelliannau allweddol hyn yn rhan o nod Trafnidiaeth Cymru o sicrhau bod gorsafoedd yn lân, cyfeillgar a chroesawgar.

Ymysg y gorsafoedd hynny sy’n elwa mae Castell-nedd, Caerfyrddin, Caerdydd Canolog, Caerfyrddin, Caer, Amwythig a Dinbych-y-pysgod.

Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Gorsafoedd, Adrian Carrington, bod y buddsoddiad yn help mawr i wella gorsafoedd i gwsmeriaid.

Dywedodd: “Mae cwsmeriaid wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud fel gweithredwr rheilffyrdd, ac rydyn ni’n falch o fod yn rheoli bron i 250 o orsafoedd ledled Cymru a Lloegr.

“Gorsafoedd yw’r pethau cyntaf mae cwsmeriaid yn eu gweld wrth deithio gyda ni felly rydyn ni eisiau iddyn nhw edrych ar eu gorau.

“Boed yn arwyddion clir, eglur, dwyieithog, cyfleusterau aros brafiach, neu hyd yn oed ychydig o baent, mae’r buddsoddiadau bach hyn yn dangos faint o feddwl sydd gennym ni o bob gorsaf. Mae’r pethau bach yn cyfri ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld rhagor o fuddsoddiad dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae’r gwelliannau’n cynnwys:

  • 24 o orsafoedd wedi cael arwyddion newydd
  • 17 o ystafelloedd wedi’u hadnewyddu
  • 300 o gasys posteri newydd
  • 195 o rampiau a stepiau newydd
  • 15 peiriant glanhau lloriau
  • 40 radio newydd i staff
  • 5 gorsaf wedi’u haddurno’n allanol
  • 5 gorsaf wedi cael gwelliannau diogelwch tân
  • 6 gorsaf wedi gosod mesurau rheoli adar

Un orsaf allweddol sydd wedi’i hailwampio yw Castell-nedd, lle mae dros £60,000 wedi cael ei wario ar y gwaith o osod arwyddion, ffensys a lloriau newydd, yn ogystal ag atgyweirio pontydd a gwneud gwelliannau allweddol i ardaloedd staff.

Dywedodd Tom Owens, Rheolwr Gorsaf Castell-nedd: “Fel gorsaf brysur yng nghanol y dref, mae Gorsaf Castell-nedd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gymuned. Mae’r tîm yn gwneud gwaith rhagorol i ofalu am gwsmeriaid ac i sicrhau bod popeth yn rhedeg fel watsh, ac mae’n wych ein bod ni wedi cael rhywfaint o fuddsoddiad wedi’i dargedu sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Mae pob gorsaf ar hyd y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston wedi cael arwyddion newydd, tra bod gorsaf Amwythig wedi cael ei hailaddurno’n llwyr.