Skip to main content

Sparkling stations: the big clean up begins

25 Maw 2019

Mae'r gwaith o lanhau gorsafoedd yn drwyadl wedi cychwyn ar draws y rhwydwaith o dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru.

Bydd y gwaith glanhau, a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, yn trawsnewid awyrgylch gorsafoedd i gwsmeriaid.

Mae pob ardal gyhoeddus yn mynd i gael ei glanhau'n drwyadl, yn cynnwys dodrefn ar blatfformau, arwyddion, byrddau gwybodaeth, goleuadau, arosfannau, llystyfiant sydd wedi gordyfu, meysydd parcio, pontydd troed ac adeiladau mewn gorsafoedd a byddwn yn cael gwared ar hen graffiti.

Lle bo'n bosibl, byddwn yn cael gwared ar gwm cnoi sydd wedi bod yno ers tro hefyd.

Bydd cam un y prosiect yn costio dros £100,000 a bydd yn rhedeg tan fis Ebrill ar yr un pryd ag archwiliad ehangach o orsafoedd sy'n ymchwilio i welliannau mawr yn y dyfodol.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid, y bydd cwsmeriaid yn sylwi ar "wahaniaeth dramatig" unwaith y bydd y gwaith wedi'i orffen.

Dywedodd: "Rydyn ni'n awyddus i drawsnewid profiad cwsmeriaid pan fyddan nhw'n defnyddio ein gwasanaethau, ond bydd hyn yn cymryd amser.

"Mae gennym ni orsafoedd anhygoel, gyda phensaernïaeth hanesyddol mewn llawer ohonynt, ar draws ein rhwydwaith – rydyn ni eisiau gofalu amdanyn nhw a sicrhau bod gorsafoedd yn dod yn rhan ganolog o'n cymunedau unwaith eto, gan ddod yn ganolfannau o brysurdeb ac yn byrth i'r rhwydwaith rheilffyrdd.

"Felly, mae gwneud yn siŵr eu bod yn edrych eu gorau glas yn flaenoriaeth i ni."

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;

“Mae'n wych ein bod ni wedi dechrau glanhau ein gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith yn drylwyr. Bydd y gwelliannau gweledol yn amlwg i'n cwsmeriaid.

Dyma ein cynlluniau cychwynnol yn Trafnidiaeth Cymru ac wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn buddsoddi £194 miliwn i wella gorsafoedd ac adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd sbon, wrth i ni barhau i fynd ati'n bositif i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru".