Skip to main content

Carmarthenshire station in running for top rail award

06 Medi 2019

MAE Gorsaf Llanymddyfri wedi cyrraedd rhestr fer ‘gorsaf y flwyddyn’ yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cenedlaethol 2019

Mae’r gwobrau'r cael eu cynnal ym mis Medi, ac maent yn dathlu pob agwedd ar y diwydiant rheilffyrdd - o ddyfeisiadau diogelwch a datblygiadau cynaliadwy i orsafoedd, trenau a gwasanaethau i gwsmeriaid.

Dyma'r ugeinfed flwyddyn i'r Gwobrau Rheilffyrdd Cenedlaethol gael eu cynnal, ac maent ymysg y gwobrau pwysicaf yn y diwydiant rheilffyrdd ym Mhrydain. 

Mae’r enwebiadau wedi cael eu cadarnhau, ac mae Llanymddyfri, sydd ar linell Calon Cymru, yn y ras am wobr Gorsaf y Flwyddyn (Bach).

Nid oes staff yn yr orsaf ond mae Cyfeillion Gorsaf Llanymddyfri wedi ei mabwysiadu dan Gynllun Mabwysiadu Gorsaf Trafnidiaeth Cymru ac mae criw o wirfoddolwyr lleol yn rhedeg y caffi ac yn gofalu am ardd yr orsaf a’r arddangosfeydd blodau.

Mae Mary Hargreaves a Joan Smith ymysg y rhai sydd wedi gwirfoddoli hiraf yn yr orsaf.

“Mae’n braf cael ein henwebu ac rydyn ni'n falch iawn o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yma,” meddent.

“Rydyn ni wedi bod yn rhedeg y caffi gyda chriw bach o wirfoddolwyr, ac mae wedi bod yn wych cael pobl i wneud profiad gwaith hefyd.”

IMG 2646

Cafodd gorsaf Llanymddyfri ei chodi yn wreiddiol yn 1858, ac ar un adeg roedd yn cyflogi 57 o bobl ac arferai fod ag iard siyntwyr lle roedd locomotif sbâr yn cael ei gadw i helpu i dynnu gwasanaethau dros lethr serth Pen-y-fâl i Lanwrtyd cyn dychwelyd i'r iard. Caeodd adeilad yr orsaf yn 1992 ond cafodd ei atgyfodi gan Gwmni Datblygu Llinell Calon Cymru a'i ailagor fel caffi yn 2011, pryd roedd Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ŵr a gwraig gwadd.

Mae gan y cwpl brenhinol gartref gerllaw, a daethant yn ôl i'r orsaf y llynedd pan oedd llinell Calon Cymru yn dathlu 150 mlynedd.

Dywedodd Lisa Dennison, Swyddog Datblygu ar gyfer Cwmni Datblygu Calon Cymru: "Mae’n newyddion gwych fod Llanymddyfri wedi cael ei henwebu ar gyfer y wobr, a rhaid i lawer o’r diolch fynd i Gyfeillion Gorsaf Llanymddyfri am eu holl waith caled.

“Mae'r caffi wedi mynd o nerth i nerth.

“Mae’r orsaf yn wir wrth galon y gymuned, ac mae’n lle pwysig ar gyfer rhai o’n llwybrau cerdded gorau.”

Tom Owens o Drafnidiaeth Cymru sy'n rheoli gorsaf Llanymddyfri, ac meddai: “Mae’n berl ar ein rhwydwaith, ac mae’n gredyd enfawr i waith anhygoel ein gwirfoddolwyr o'r gymuned.

“Rwy’n wastad yn edrych ymlaen at fynd i Lanymddyfri ac mae’r croeso’n gynnes iawn yno bob amser. Rwy’n falch iawn ei bod yn y ras am y wobr, ac rydyn ni’n croesi ein bysedd y down â’r wobr yn ôl i Gymru.”

Mae’r adeilad yn cynnal clwb rheilffordd degan, ynghyd ag arddangosfeydd gan artistiaid lleol. Maen nhw’n frwd dros roi profiad gwaith i bobl ifanc, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion addysgol arbennig sy'n dod draw yn aml i helpu’r criw craidd o wirfoddolwyr.  

Mae llawer o’r cwsmeriaid yn dod yn aml ac mae hynny’n dangos faint o feddwl sydd o'r orsaf.

Mae David a Valerie May yn teithio ar y trên o Gorslas bob dydd Mercher ers tair blynedd.

IMG 2643

“Mae’n gaffi hyfryd a chyfeillgar, ac mae’r teisennau’n fendigedig,” meddai Valerie.

Gwirfoddolwraig arall yw Kathleen Duncan, a dechreuodd hi ddod y llynedd ar ôl cael profedigaeth.

Dywedodd: “Mae pawb wedi dangos caredigrwydd mawr tuag ataf. Doeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl yn ardal, ac mae wedi bod yn achubiaeth i mi ac wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o'r gymuned.”

(Mae Valerie a David May a Kathleen Duncan yn aml yn mwynhau mynd am sgwrs i Gaffi Gorsaf Llanymddyfri)

Mae’r gwirfoddolwyr yn gofalu hefyd am y basgedi crog a gardd yr orsaf, lle mae cynnyrch ffres yn cael ei dyfu i'w ddefnyddio yn y caffi.

Maent yn gobeithio gosod canopi yn yr orsaf yn y blynyddoedd nesaf, sef rhywbeth a oedd yno pan oedd yr orsaf yn ei hanterth yn Oes Fictoria.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i https://awards.railbusinessevents.co.uk/

I gael manylion Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru a chynigion eraill, ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-ddeithio/rheilffordd/arbedion-a-chynigion/cardiau-rheilffordd

IMG 2632