Skip to main content

Kidwelly railway station goes green

19 Ion 2023

Mae ein trawsnewidiad gwyrdd mwyaf hyd yma wedi’i gwblhau yng ngorsaf reilffordd Cydweli.

Bu Trafnidiaeth Cymru (TrC) a gwirfoddolwyr o Centregreat yn cydweithio i adeiladu chwe man plannu blodau mawr yn yr orsaf, gan greu man gwyrdd newydd lle gall bioamrywiaeth ffynnu.  Mae’r orsaf wedi’i mabwysiadu gan Grŵp Sgowtiaid Cydweli, sydd wedi ein helpu i blannu blodau sy’n gyfeillgar i beillwyr.

Bydd Grŵp Sgowtiaid Cydweli yn parhau i gefnogi’r orsaf drwy gynllun Mabwysiadu Gorsaf Trafnidiaeth Cymru, gan barhau â’u gwaith yn cynnal a gwella amgylchedd yr orsaf.

Dywedodd Natalie Rees, Pennaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd Trafnidiaeth Cymru, “Rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth ar ein rhwydwaith.  Trwy weithio gyda grwpiau cymunedol fel Sgowtiaid Cydweli a’n partneriaid diwydiant yn Centregreat, gallwn greu gwelliannau y gall y gymuned fod yn berchen arnynt, wedi’u sbarduno gan y bobl a wasanaethwn.

Mae prosiectau fel Llwybrau Gwyrdd yn wych oherwydd eu bod yn cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, o hybu bioamrywiaeth, gwella profiad ein cwsmeriaid mewn gorsafoedd i feithrin perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n cymdogion.”

Dywedodd Stuart Fortey, Cyfarwyddwr Centregreat Rail: “Mae cefnogi cymunedau bob amser yn rhoi pleser mawr i dîm Centregreat Rail, gan gynorthwyo grwpiau cymunedol ac elusennau, yn enwedig y rhai sy’n lleol i’n prosiectau, gan greu etifeddiaeth cadarnhaol unwaith y daw’r gwaith i ben.  Yn dilyn ein hamser ar y safle yn adnewyddu Traphont Cydweli yn llwyddiannus, roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda gwirfoddolwyr o Trafnidiaeth Cymru a Grŵp Sgowtiaid Cydweli i gyflenwi deunyddiau a llafur ar gyfer adeiladu’r mannau i blannu blodau newydd ar y platfform.”

Ychwanegodd Nathan Ball, y Rheolwr Gwerth Cymdeithasol, “Mae Centregreat Rail yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y cyfleoedd a roddir i ni i wneud y mwyaf o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.  Mae’r ymgysylltu hwn yn enghraifft wych o hybu effaith amgylcheddol ac ecolegol trwy greu mannau gwyrdd, sydd nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth mewn amgylchedd adeiledig, ond sydd hefyd yn creu amgylchedd gorsaf sy’n dyrchafu lles ein teithwyr.  Mae rhoi profiad i Grŵp fel Sgowtiaid Cydweli adeiladu strwythur hefyd yn rhywbeth yr ydym yn angerddol yn ei gylch, rhoi cyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chyflwyno delwedd gadarnhaol o’r diwydiant adeiladu.”

Dywedodd Shân Cheesman, Arweinydd Sgowtiaid Cydweli: “Hoffem ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am y cyfle i drawsnewid yr orsaf ac mae ein gwirfoddolwyr ifanc yn edrych ymlaen at y gwanwyn i weld pa rywogaethau fydd y strwythurau wedi llwyddo i'w denu.”

Mae’r gwelliannau wedi cael eu gwneud yn yr orsaf fel rhan o brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru.  Cyflwynodd y prosiect nodweddion gwyrdd mewn 25 o’n gorsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol gyda’r nod o hybu bioamrywiaeth leol a chynyddu llesiant pobl ar draws y rhwydwaith.

Dyfarnwyd £100,000 i Trafnidiaeth Cymru gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd rheilffordd a gerllaw.