Skip to main content

Quakers Yard reopened as Metro works progress

15 Rhag 2023

Bydd gorsaf reilffordd Mynwent y Crynwyr yn ailagor i deithwyr ddydd Llun 18 Rhagfyr 2023 yn dilyn gwaith uwchraddio seilwaith. 

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi uwchraddio'r orsaf o un platfform i blatfform dwbl, wedi gosod pont droed gyda grisiau a ramp newydd sbon ynghyd â thrac rheilffordd ychwanegol.

Bydd y trac ychwanegol a'r rheilffordd ddwbl yn caniatáu i TrC redeg 4 trên yr awr o Ferthyr Tudful i Gaerdydd yn y dyfodol agos, wrth i'r gwaith o drydaneiddio'r llinell barhau.

Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd. 

Dywedodd llefarydd ar ran TrC: “Rydym wedi gwneud gwaith helaeth yng ngorsaf Mynwent y Crynwyr fel rhan o'n prosiect Metro De Cymru ac rydym yn falch iawn o allu ailagor yr orsaf i'r cyhoedd.

“Rydym yn parhau i symud ymlaen i ddarparu Metro De Cymru ac mae hon yn garreg filltir allweddol arall i ni.  Bydd ein trenau tram newydd sbon yn rhedeg ar y llinellau hyn yn fuan, gan ddarparu cludiant cyflymach, gwyrddach ac amlach i bobl de Cymru ."

“Hoffwn ddiolch i'n cwsmeriaid a'n cymdogion rheilffordd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni barhau i gyflawni'r prosiect trawsnewid enfawr hwn.”

Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yn adeiladu’r Metro yma https://trc.cymru/prosiectau/metro/adeiladu-ein-metro .

Llwytho i Lawr