05 Maw 2024
Ar 29 Chwefror 2024, gwnaeth Prosiect Celf Gorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol gychwyn1, diolch i gefnogaeth gan Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y 3 Sir Gysylltiedig. Mae Gorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol yn arddangos gwaith celf cyffrous i ddathlu creadigrwydd ac arddangos talentau artistig y gymuned leol.
Arweiniwyd y prosiect gan artist leol, Sophia Leadil, a daeth gyfranogion y Wallich, Housing Justice ac aelodau cymuned Wrecsam ynghyd, i archwilio’r thema “cynefin”, sef y cysylltiad sydd gan unigolion at le. Drwy gyfres o ddarluniau â phensil a thechnegau printio, maent wedi archwilio ac arddangos yr hyn sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig iddynt.
Mynegodd Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, Josie Rayworth, ei brwdfrydedd am y prosiect gan ddweud, “Mae gweld gwaith celf cyfranogion y Wallich, Housing Justice, yn ogystal ag aelodau cymuned ehangach Wrecsam, wedi bod yn ysbrydoledig. Bydd yr ystafell aros bellach yn rhoi gwir ddarlun i gwsmeriaid o’r hyn sy’n gwneud Wrecsam yn lle mor arbennig.”
Dywedodd Carl, un o gyfranogion y prosiect, “Gwnes i fwynhau arbrofi gyda thechnegau celf newydd bob wythnos a gwnaeth y profiad fy helpu i ddysgu mwy am lefydd yn Wrecsam nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt. Roedd yr holl beth yn ddiddorol a phleserus iawn.”
Dywedodd Mel Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol i Trafnidiaeth Cymru,
“Mae’n bwysig iawn i Trafnidiaeth Cymru bod ein gorsafoedd yn teimlo fel rhan o’r gymuned, ac mae wedi bod yn wych gweld y prosiect hwn yn dod yn fyw yng Ngorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol. Mae’n braf gweld y gwaith celf terfynol yn ogystal â sut mae’n arddangos yr hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig a’r hyn sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig i’r bobl sy’n byw yma.”
Roedd arddangos y gwaith celf ar 29 Chwefror 2024 yn dathlu wythnosau o gydweithio artistig. Mae’r ystafell aros yng Ngorsaf Drenau Wrescam Cyffredinol bellach yn lle i arddangos y gwaith celf hwn fel bod cwsmeriaid a’r gymuned leol yn gallu gwerthfawrogi tirnodau Wrecsam.
Trwy weithio â Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, rydym yn falch i gefnogi mentrau sy’n dod â chymunedau ynghyd a hyrwyddo cyfoeth diwylliant lleol. Mae Prosiect Celf Gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn enghraifft o’r effaith gref sydd gan gelf i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau sydd rhyngom.
Ewch i dudalen we Prosiect Celf Gorsaf Drenau Wrecsam Wrexham Station Art Project2 i ddarllen am y prosiect a gwaith y gymuned leol.