Skip to main content

Criccieth station transformed by new community-led art and heritage displays

15 Meh 2026

Cafodd gosodiad celf arbennig, sef trên stêm pren, ynghyd ag arddangosfa dreftadaeth newydd eu cyflwyno’n swyddogol i orsaf Cricieth, gan drawsnewid y platfform yn ganolfan gymunedol fywiog.

Datgelwyd y ddwy arddangosfa ar ddydd Iau 4 Mehefin, gan ddod â grwpiau cymunedol lleol a thrigolion ynghyd i ddathlu Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol (1 – 7 Mehefin).

Bu’r prosiect yn bosib drwy Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200 Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian, sy’n fenter a gefnogir gan Gronfa Her Trafnidiaeth Cymru i gefnogi prosiectau a nododd 200 mlynedd o'r rheilffordd fodern.

Mae’r prosiect yn cryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r rheilffordd tra’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu harwain yn lleol.

Yr ychwanegiad cyntaf i blatfform yr orsaf yw trên stêm pren mawr, a gafodd ei adeiladu gan Men’s Shed Cricieth, a’i ddylunio a’i addurno gan Grefftwyr Cricieth, sydd wedi gorchuddio’r trên â phatrymau gwlân wedi’u gweu neu’u crosio â llaw.

I gwblhau’r prosiect cydweithredol, aeth grŵp Cricieth yn ei Blodau ati i droi un o’r wagenni pren yn botyn plannu ac arddangos amrywiaeth o flodau parhaol.

Dywedodd Pam Mayo o Crefftwyr Cricieth: "Fe wnaethon ni weithio gyda Men’s Shed Cricieth i greu ein dehongliad ni o injan stêm. Mae’n lliwgar ac yn wahanol. Mae grantiau fel hyn gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn sicrhau bod gan ein haelodau rywle i gyfarfod ddwywaith yr wythnos a phrosiect i’w gwblhau. Rydyn ni’n ddiolchgar i Deb am weithio gyda ni ar y prosiect yma."

Yn ogystal â’r trên stêm pren gall ymwelwyr weld arddangosfa hanesyddol newydd o’r enw ‘Potted Thyme Line’. Cafodd ei chreu gan Cricieth yn ei Blodau mewn cydweithrediad â disgyblion ysgol a grwpiau cymunedol lleol. Mae’r arddangosfa yn tynnu ar ffotograffau hanesyddol, toriadau o bapurau newydd a deunydd archifol i olrhain datblygiad y rheilffordd yn y dref rhwng 1865 ac 1869.

Nodwyd cwblhau’r ddau brosiect gan Gadeirydd Cyngor Tref Cricieth, y Cynghorydd Delyth Lloyd ar ran y dref. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Trafnidiaeth Cymru, y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, Cricieth yn ei Blodau, Crefftwyr Cricieth a phawb arall sydd wedi cymryd rhan am eu gwaith i gyflawni’r prosiectau hyn.

“Yr hyn sy’n gwneud y prosiectau yma mor bwysig yw’r ysbryd cydweithredol y tu nôl iddynt. Maen nhw’n dod â gwirfoddolwyr, artistiaid, haneswyr, grwpiau cymunedol a phreswylwyr o bob oed ynghyd. Maen nhw’n adlewyrchu gwerthoedd ein cymuned yn berffaith; sef cynhwysiant, cysylltiad, creadigrwydd a balchder yn ein cymuned.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth arbennig a chofiadwy iawn ar gyfer gorsaf Cricieth.

“Rydyn ni’n falch iawn bod ein Cronfa Her wedi gallu helpu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i gefnogi’r prosiectau hyn o dan arweiniad y gymuned, a dathlu 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern a chryfhau cysylltiadau lleol. Diolch i ymdrechion rhagorol pawb mae’r orsaf bellach yn lle llawer mwy croesawgar i deithwyr a phobl leol.”

Dywedodd Neil Scott, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: “Mae Cynllun Grant Cymunedol Rheilffordd 200 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng ein cymunedau â’n rheilffordd ac rydyn ni wedi bod wrth ei bodd i weld creadigrwydd ein grwpiau cymunedol yng Nghricieth wrth ddathlu carreg filltir bwysig yn hanes y rheilffordd.”

Nodiadau i olygyddion


  • Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol sydd wedi’i hachredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth (DofT) a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd. Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.
  • Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn gweithio gyda chymunedau ar hyd y rhwydwaith rheilffyrdd o Amwythig i Aberystwyth ac ar hyd arfordir Cymru i Bwllheli, gan gwmpasu 120 o filltiroedd a 34 o orsafoedd.
  • Dyfarnwyd dros £7,000 i fudiadau cymunedol drwy Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200, gan gefnogi prosiectau sy’n dathlu treftadaeth, creadigrwydd a dulliau teithio cynaliadwy.
  • Y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yw’r corff aelodaeth ar gyfer y mudiad rheilffyrdd cymunedol ac mae’n siarad o blaid rheilffyrdd cymunedol, yn rhannu mewnwelediadau ac yn cefnogi aelodau drwy gynnal gwasanaethau a digwyddiadau.
  • Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol (1 – 7 Mehefin 2026) yw’r ymgyrch flynyddol genedlaethol i ddathlu gwaith partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau gwirfoddol gorsafoedd ledled Prydain.