22 Hyd 2025
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol newydd wedi'i lansio yn Ne-ddwyrain Cymru, wedi'i hariannu drwy Trafnidiaeth Cymru.
Wedi'i lleoli ym Merthyr, mae 'Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Tri Chwm' yn cael ei chynnal gan Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol a thwristiaeth, darparwyr gofal iechyd, partneriaid cymunedol a'r diwydiant rheilffyrdd.
Ei hamcan fydd hyrwyddo teithio cynaliadwy, iechyd a lles, twristiaeth a datblygiad economaidd ar hyd y rheilffyrdd sy'n cysylltu Treherbert, Aberdâr a Merthyr â Chaerdydd. Drwy ganolbwyntio ar brosiectau lleol, mae'r bartneriaeth yn anelu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffordd Gymunedol yn Trafnidiaeth Cymru; “Rydym wrth ein bodd yn lansio'r bartneriaeth ac yn croesawu pawb sy'n gysylltiedig â'r Tri Chwm i deulu Gymunedol y Rheilffordd. Mae'r rheilffordd yn rhan bwysig o dreftadaeth y Cymoedd. Drwy ddarparu llais i'r gymuned, gall y bartneriaeth helpu pobl i fanteisio'n llawn ar y gwelliannau sy'n cael eu darparu gan Fetro De Cymru.”
Dywedodd Verity Lewis, Swyddog Rheilffordd Gymunedol y bartneriaeth; “Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ymgysylltu â’n cymunedau lleol i greu’r bartneriaeth. Wrth i ni barhau â’r daith ymlaen, rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda phartneriaid, sefydliadau a’r gymuned, dan arweiniad pedwar colofn Rheilffyrdd Cymunedol - wrth ddathlu ysbryd a threftadaeth y Cymoedd.
Dywedodd Sharon Richards, Prif Swyddog Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful; “Fel sefydliad cynnal, mae VAMT yn hynod falch o rôl ein swyddog wrth lunio’r bartneriaeth hon, ac rydym yn edrych ymlaen at y posibiliadau y mae’n eu hagor ar gyfer arloesedd, twf a gwerth hirdymor ar draws ein cymunedau”.
Bydd hwn y chweched partneriaeth rheilffyrdd cymunedol ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru; y lleill yw Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd-orllewin Cymru, Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol 3 Sir Gysylltiedig, Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian, Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru, Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltu De-orllewin Cymru.
Nodiadau i olygyddion
- Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (GGMT) yw Cyngor Gwirfoddol y Sir (CVC) ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac mae wedi bodoli ers 1997. Mae gan GGMT aelodaeth o fwy na 370 o sefydliadau trydydd sector ac mae ganddo gysylltiad â dros 500.
- Bydd y bartneriaeth yn cwmpasu 35 o orsafoedd rhwng Treherbert, Merthyr, Aberdâr a Chaerdydd.