Skip to main content

TfW train cleaner still going strong at 80

13 Ebr 2023

MAE'N 8pm ar noson fwyn o wanwyn ac yng ngorsaf reilffordd Caerfyrddin, mae'r tîm glanhau yn paratoi i fynd i'r gwaith.

Yn eu plith, mae William Gwyn Thomas, un o selogion y tîm, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, carreg filltir sylweddol.

Er ei fod newydd gael ei ben-blwydd yn 80 oed, mae Gwyn, fel y mae'n well ganddo gael ei adnabod, yn dal i weithio mor galed ag erioed.  Gyda brws llawr yn un llaw a mop yn y llaw arall, bydd ef a'r tîm yn glanhau rhwng 18 a 26 o gerbydau a byddant fel pin mewn papur yn barod ar gyfer y bore canlynol.

“Rwyf wrth fy modd yn y swydd hon,” meddai Gwyn, sydd wedi bod yn glanhau trenau yng Nghaerfyrddin ers 25 mlynedd.

“Rwy’n gweithio gyda chriw rhagorol, pob un ohonom yn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn y modd gorau posibl.

“Balchder yw popeth ac rydym yn falch iawn o sicrhau bod y trenau fel pin mewn papur ar gyfer y cwsmeriaid fydd yn eu defnyddio drannoeth.”

Ar ôl gweithio fel ffermwr llaeth ger Llambed nes ei fod yn 55 oed, penderfynodd Gwyn newid cyfeiriad.  Ar ddiwedd y 1990au, fe ymunodd â thîm glanhau Caerfyrddin, tîm oedd yn llawer llai bryd hynny.

“Roeddwn mor hapus i gael cynnig y swydd – doeddwn i’n methu credu fy mod wedi bod yn llwyddiannus.  Mae gweithio fel rhan o dîm glanhau Caerfyrddin yn golygu llawer iawn i mi - mae Caerfyrddin yn orsaf arbennig iawn.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn 80 oed ac yn dal i weithio ond rydw i wrth fy modd a fydda’ i ddim yn rhoi’r gorau iddi nes y bydda i’n barod i wneud hynny, ddim cyn hynny,” ychwanegodd Gwyn sydd â thri o blant - dau ei hun a llysferch, tri o wyrion a phedwar gor-ŵyr.

Mae Gwyn yn credu mai “bwyta’n dda, peidio ag yfed dim byd cryfach na shandi a rhoi'r gorau i 'smygu” yw’r rheswm am ei hir oes.

Gan weithio rhwng 7:30pm a 2:30am, bydd y tîm yn glanhau pob cerbyd yn drwyadl, gan adael y cabiau, y toiledau, y byrddau a'r lloriau fel pin mewn papur.

Tra mai nos Sadwrn sy’n tueddol i fod y shifft anoddaf, pan fo mynd ati i lanhau’r toiledau’n gallu bod yn eithaf heriol ynghyd â’r sbwriel y mae pobl yn ei adael, dywed Gwyn mai’r unig beth i’w wneud yw bwrw ati a chymryd un dydd ar y tro.

“Mae’n rhwystredig ond does dim pwynt cwyno - dyna naws y swydd ac mae’n rhaid dal ati.  Mae'n rhaid cadw’r cerbydau yn lân ar gyfer ein cwsmeriaid – dyna ein dyletswydd.”

Talodd Wendy Jones, Rheolwr Gweithrediadau Glanhau TrC a James Nicholas, Rheolwr Gorsaf Caerfyrddin deyrnged i Gwyn, gan ei ddisgrifio fel “un o hoelion wyth gorsaf Caerfyrddin”.

“Mae safon y gwaith y mae Gwyn yn ei wneud nos ar ôl nos yn enghraifft wych o rywun sy’n ymfalchïo yn eu gwaith,” dywed y ddau.

“Hoffem ddiolch i Gwyn am bopeth â wna a dymuno penblwydd hapus iawn iddo.”