Skip to main content

Wrexham AFC matchdays made easier with Transport for Wales pay as you go

25 Medi 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam i fanteisio ar ‘Talu wrth Fynd’ y tymor yma ar gyfer eu gemau cartref yn y STōK Cae Ras. 

Cyflwynwyd Talu wrth Fynd yng ngorsafoedd trenau ledled gogledd-ddwyrain Cymru ym mis Mai; sy’n caniatáu i deithwyr tapio i mewn ar ddechrau eu taith a thapio allan ar ddiwedd y daith gyda cherdyn neu ddyfais dalu digyffwrdd. 

Mae TrC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i ddangos pa mor syml a fforddiadwy yw cyrraedd y gêm i gefnogwyr. 

Mae'n rhan o uchelgais ehangach TrC i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, a chefnogi twf a llwyddiant parhaus cymunedau ar draws gogledd Cymru a'r gororau ac i annog teithio cynaliadwy. 

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Mae pêl-droed yn chwarae rhan enfawr o ran denu pobl i Wrecsam drwy gydol y flwyddyn. 

"Rydyn ni eisiau teithio ar y trên i fod yn ddewis hawdd a deniadol ar gyfer y daith p'un a yw pobl yn mynd i gêm, treulio amser yng nghanol y ddinas neu'n ymweld â ffrindiau neu deulu. 

"Trwy weithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phartneriaid lleol, gennym gyfle gwych i gyflwyno mwy o bobl i fanteision tapio i mewn a thapio allan, a'u helpu i ddarganfod pa mor syml y gall teithio ar y trên fod." 

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, "Rydym yn falch o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i wneud teithio ar ddiwrnod y gêm mor syml â phosibl. 

"Mae Talu wrth Fynd yn rhoi opsiwn syml a chyfleus i gefnogwyr sy’n teithio i Wrecsam, tra hefyd yn annog mwy o bobl i ystyried trafnidiaeth gyhoeddus. 

"Gyda miloedd o gefnogwyr yn teithio i'r STōK Cae Ras yn ystod y tymor, gallai hwyluso teithio ar y trên helpu i leihau traffig ar ein ffyrdd a chefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio i'r ddinas." 

Mae tapio mewn a thapio allan eisoes yn gweithredu ar draws nifer o orsafoedd gogledd Cymru, gyda mwy yn ymuno wrth i'r broses gyflwyno barhau. Rhaid i gefnogwyr tapio i mewn ac allan gyda'r un cerdyn neu ddyfais. 

Am fwy o wybodaeth: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/talu-wrth-fynd 

Nodiadau i olygyddion


Mae prisiau Talu wrth Fynd taith unffordd i Wrecsam Cyffredinol yn cychwyn: 

  • £1.70 o Wrecsam Canolog a Gwersyllt 
  • £2.20 o’r Hôb a Chaergwrle 
  • £2.70 o Benarlâg a Phen-y-ffordd. 

Lansiwyd partneriaeth gychwynnol rhwng Clwb Pêl-droed Wrecsam a TrC y llynedd – cyn cyflwyno’r gwasanaeth Talu wrth Fynd TrC yng ngogledd Cymru – gyda chynnig tocyn Advance Flex pwrpasol i gefnogwyr sy'n teithio i gemau cartref. Roedd y cynnig yn darparu teithio ar y trên gostyngol gyda mwy o hyblygrwydd na thocyn Advance safonol, gan ganiatáu i gefnogwyr deithio ar ddiwrnodau gêm heb fod angen archebu gwasanaeth dychwelyd penodol.