11 Gor 2019
Dyna neges Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant newydd Trafnidiaeth Cymru cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth o Anabledd ar 14 Gorffennaf.
Mae Dr Robert Gravelle yn dod â chyfoeth o brofiad proffesiynol i’r rôl ac mae’n dweud bod y parodrwydd a’r ymrwymiad ariannol i adeiladu rheilffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus well wedi cael cryn argraff arno.
Fel rhan o brosiect Metro De Cymru sydd werth £800 miliwn, mae Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau na fydd grisiau ar 99% o’r holl siwrneiau ar hyd Rheilffyrdd y Cymoedd.
Mae ymrwymiad hefyd i fuddsoddi £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau a fydd yn hollol hygyrch a £15 miliwn i wella hygyrchedd gorsafoedd ar hyd y prif lwybr.
“Byddaf yn gweithio’n agos iawn ar y prosiect Metro ac ar ddatblygu ein fflyd newydd sbon o drenau, gan sicrhau bod hygyrchedd a chynhwysiant wrth galon popeth a wnawn”.
“Mae camu i mewn yn gynnar wrth ddatblygu gwasanaethau newydd yn allweddol er mwyn sicrhau bod anghenion y gymuned gyfan; ond yn enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed, wedi’u gwreiddio mewn penderfyniadau”.
Dywedodd Robert, sy’n anabl ei hun; “Mae Hygyrchedd a Chynhwysiant yn ymwneud â darparu cyfleoedd go iawn i bawb dim ots beth yw eu hanabledd, eu hangen neu eu nodwedd warchodedig; mae’n ymwneud â mwy nag ystadegau; mae’n ymwneud â bywydau pobl. Mae llwyth o waith i’w wneud i wrando ac i roi sylw i anghenion y gymuned gyfan ond yn enwedig y rheini sydd ag amrywiaeth o anableddau gan gynnwys Anableddau Cudd, Iechyd Meddwl, Nam ar eu Clyw a Nam ar eu Golwg ac unrhyw un sydd ar gyrion cymdeithas.
“Mae'r manteision o ran yr Economi ac o ran Cymdeithas a ddaw i gymunedau yn sgil trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, fforddiadwy ac o ansawdd yn sbardun sylweddol; gan roi mynediad at gyfleoedd i bobl mewn cymunedau ar draws ein rhwydwaith.
Dyma’r prif newidiadau mae Robert yn bwriadu eu cyflwyno:
- Sicrhau bod ymarfer gorau hygyrchedd yn cael ei wreiddio yn nyluniadau ein gorsafoedd, ein rhaglenni ailwampio a’n cerbydau.
- Datblygu Grŵp Hygyrchedd a Chynhwysiant gyda chynrychiolwyr o gymunedau sydd ag anghenion a phrofiadau gwahanol.
- Gwreiddio trefn hyfforddiant cynhwysol newydd a fydd yn cael ei ddarparu i 1,600 o staff yn ystod y flwyddyn gyntaf a chefnogi gweithredu 12 interniaeth ar gyfer pobl anabl bob blwyddyn.
- Datblygu systemau archebu â chymorth a chymorth wrth deithio er mwyn cefnogi’r cwsmer yn well.
- Datblygu mentrau sy’n seiliedig ar ddefnyddwyr fel gorsafoedd sy’n ystyried dementia, cynllun laniardau Blodau'r haul a’r Waled Oren.
Mae ganddo brofiad mewn meysydd fel dylunio diwydiannol, iechyd a diogelwch a dylunio Adeiladwaith. Yn fwyaf diweddar mae wedi bod yn gweithio i Gyngor Caerdydd fel ymgynghorydd hygyrchedd preifat ar draws amrywiaeth o feysydd gan gynnwys canolfan adwerthu Dewi Sant, Pont Stryd Tyndal, The Ivy Collection, Maes Awyr Caerdydd, Castell Caerdydd, Y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Newid Moddol / Trafnidiaeth a'r Sgwâr Canolog yn fwyaf diweddar, gan gynnwys cyfnewidfa drafnidiaeth Dinas Caerdydd Trafnidiaeth Cymru sy’n esblygu. Mae Robert mewn sefyllfa dda i ddatblygu gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd cynhwysol a hygyrch.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), un o’n prif amcanion yw helpu i greu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ a drwy weithredu ein rhaglen buddsoddi gwerth £5 biliwn, rydyn ni’n gobeithio gwella’r profiad i’n holl gwsmeriaid, ni waeth beth yw unrhyw anableddau neu anghenion. Byddwn yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a fydd yn hollol hygyrch a £15 miliwn i wella hygyrchedd yn ein gorsafoedd.
“Rydyn ni hefyd ar ganol datblygu Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru a fydd yn helpu i sicrhau bod gan ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid strwythur clir er mwyn iddynt allu ein cynghori ynghylch ein datblygiad. Mae’r cwsmer wrth galon popeth a wnawn a bydd y Panel Cynghori yn sicrhau bod anghenion ein holl gwsmeriaid yn cael sylw a byddwn yn cydweithio i greu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.”
https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/cymorth-i-archebu