15 Mai 2025
Bydd yr awdur, sy'n ymhyfrydu mewn gwylio trenau, a'r seren cyfryngau cymdeithasol, Francis Bourgeois, yn mynychu Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus Gyntaf Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.
Yn cael ei gynnal ar 22 a 23 Mai ym Mhrifysgol Wrecsam, bydd yr Uwchgynhadledd yn dod ag arweinwyr trafnidiaeth ynghyd ac yn adeiladu momentwm cydweithredol sydd ei angen i lunio system drafnidiaeth addas ar gyfer y dyfodol.
Enillodd Francis statws cwlt am ei anturiaethau trenau brwd, ysbrydoledig ac atyniadol a bellach, nid yn unig mae Francis yn un o ddylunwyr cynnwys digidol mwyaf adnabyddus y DU, mae ganddo gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd.
Dywedodd Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chwsmeriaid TrC:
“Braint o’r mwyaf yw croesawu Francis Bourgeois i'n Huwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus. Bydd yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo ein trenau a'n bysiau newydd, gan annog mwy o bobl i'w defnyddio.
“Yn TrC, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i wella profiad y cwsmer ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar draws rhwydwaith cyfan Cymru a'r Gororau. Hefyd, rydym wedi rhoi bysiau trydanol modern ar waith ar rwydwaith TrawsCymru a buddsoddi biliynau o bunnoedd yn Metro De Cymru.
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni nawr eisiau hyrwyddo ein buddsoddiad ymhellach a denu hyd yn oed mwy o bobl i'w ddefnyddio.”