13 Awst 2025
Mae ffeibr, rhwydwaith rhyngrwyd cyflym newydd Cymru, wedi cyflawni ei gontract cysylltedd ffeibr masnachol cyntaf ar gyfer Cloud Centres Networks.
Wedi'i lansio ddiwedd y llynedd, mae ffeibr yn rhwydwaith ffeibr newydd a adeiladwyd ochr yn ochr â thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnig cysylltedd mynediad cadarn i rai o'r lleoedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru.
Yn is-gwmni i Trafnidiaeth Cymru, cyflawnodd ffeibr ei brosiect cyntaf yn darparu datrysiad cysylltedd ffeibr cymhleth ar gyfer Cloud Centres Networks mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Roedd prosiect masnachol cyntaf ffeibr yn cynnwys dylunio a gweithredu datrysiad ffibr tywyll i gysylltu prif gampws Prifysgol Caerdydd â chyfleuster data Cloud Centres Networks yn Ne Cymru.
Roedd y llwybr a gynlluniwyd yn bwrpasol yn allweddol wrth adleoli rhaglen Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) y brifysgol, gan sicrhau bod y symudiad yn ddiogel ac wedi'i integreiddio'n ddi-dor â'u systemau presennol.
Guy Reiffer, Rheolwr Gyfarwyddwr ffeibr. “Mae’r prosiect hwn yn fwy na chyflawniad llwyddiannus. Mae’n brawf bod ffeibr yma i godi’r safon ar gyfer seilwaith digidol yng Nghymru.
“Mae cael ein dewis gan Cloud Centres Networks i gefnogi Prifysgol Caerdydd, ac i ragori ar ddarparwr sefydledig, yn dangos cryfder ein rhwydwaith, ein pobl a’n dull gweithredu.”
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru “mae cyflawniad ffeibr ar gyfer Cloud Centres Networks a Phrifysgol Caerdydd yn arddangosiad clir o sut y gall arloesedd yn y sector cyhoeddus sbarduno effaith wirioneddol.
“Fel menter ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Cymru ac Cyfarwyddiaeth Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol Llywodraeth Cymru , mae ffeibr yn datgloi gwerth newydd o asedau cyhoeddus i gefnogi dyfodol digidol Cymru.”
Dywedodd Lee Evans, Cyfarwyddwr TG Cynorthwyol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn fy 35 mlynedd yn y sector technoleg, nid wyf erioed wedi gweld cwmni’n cyflawni prosiect o’r cymhlethdod hwn mewn cyfnod mor fyr.
“Mae tryloywder, proffesiynoldeb a gallu ffeibr wedi helpu reoli disgwyliadau etifeddiaeth. Nid oeddent eisiau ennill y busnes yn unig, roeddent eisiau ei wneud yn iawn.”
Os hoffech chi weithio gyda ffeibr neu os oes gennych chi brosiect a allai ddefnyddio arbenigedd y tîm, cysylltwch drwy ymweld â: ffeibr.cymru/#Contact
Nodiadau i olygyddion
- Mae TfW Fibre Limited yn is-gwmni sy'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru Cyf.
- Mae Cloud Centres Networks yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau cydleoli a chynnal gweinyddion o ansawdd uchel yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr. Gan gynnig gwasanaethau achrededig ISO27001 ac ISO9001, mae eu cleientiaid yn amrywio o'r sefydliadau Sector Cyhoeddus mwyaf hanfodol i'r cwmnïau masnachol newydd, pob un yn cael ei wasanaethu gyda'r lefelau uchaf o hyblygrwydd a dibynadwyedd. Mae yna lawer o resymau dros gofleidio'r Cwmwl, a boed eich gyrrwr yn argaeledd system uwch, lleihau costau cyfleusterau, gwella defnydd lle, rheoli costau'n fwy tynn neu ddim ond ychwanegu hyblygrwydd at eich gwasanaethau TG, gall Cloud Centres Networks ddarparu'r cyngor a'r gwasanaeth sydd eu hangen arnoch.