02 Ebr 2026
Mae ffeibr wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall i ddyfodol digidol Cymru, gan ymestyn ei rwydwaith ffeibr llawn y genhedlaeth nesaf yn llwyddiannus oddi ar draciau trên Llinellau Craidd y Cymoedd ac i ganol dinas Caerdydd – yr holl ffordd i lawr i Fae Caerdydd.
Mae'r ehangiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru. Seilwaith ffeibr capasiti uchel, sy'n addas i'r dyfodol sydd wedi'i gynllunio i roi'r perfformiad sydd ei angen ar fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae'r llwybrau newydd yn darparu:
- Cyflymderau llwytho i fyny a lawrlwytho cyflym iawn
- Perfformiad dibynadwy ar gyfer trin data cyfaint uchel
- Cysylltedd gwydn â chanolfannau data lluosog a'r Cwmwl
- Cysylltedd cadarn ar gyfer creu cynnwys a gweithrediadau digidol
Drwy ehangu ar lwybrau ffeibr Metro De Cymru, mae'r prosiect yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gryfhau busnesau lleol a sbarduno twf economaidd hirdymor.
Yr hyn sy'n gwneud y datblygiad hwn yn arbennig o ystyrlon yw model pwrpasol ffeibr. Gyda phob punt o elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i'r sector cyhoeddus yng Nghymru drwy Trafnidiaeth Cymru.
Yn hollbwysig, mae ymestyn y rhwydwaith i Gaerdydd yn cryfhau prif bwrpas ffeibr: gwella cysylltedd digidol ar gyfer y Cymoedd. Drwy greu llwybrau asgwrn cefn cryfach i'r brifddinas, mae busnesau a chymunedau ar draws rhanbarthau'r Cymoedd a Chaerdydd yn cael llwybrau cyflymach a mwy dibynadwy i'r cyfleoedd economaidd, diwylliannol a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u crynhoi yng Nghaerdydd.
Dywedodd Guy Reiffer, Rheolwr Gyfarwyddwr ffeibr: "Mae ymestyn ein rhwydwaith ffeibr llawn i galon Caerdydd yn gam mawr ymlaen i seilwaith digidol yng Nghymru. Mae hyn yn fwy na chysylltedd yn unig - mae'n ymwneud â chreu'r sylfeini ar gyfer arloesi, twf economaidd, a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.
"Diolch i ymroddiad ein timau a'n partneriaid adeiladu yng Nghymru, Gforce Telecoms, gall busnesau a gwasanaethau cyhoeddus nawr elwa o ffibr capasiti uchel, sy'n barod i'r dyfodol wedi'i adeiladu gyda llwyddiant hirdymor Cymru mewn golwg."
Ychwanegodd Ginty Foster, Prif Swyddog Gweithredol Gforce Telecoms (GFT) hefyd: "Rydym ni yn GFT yn falch o bartneru gyda ffeibr ar y prosiect hwn, calon Caerdydd.
"Mae hon yn ymdrech gydweithredol wedi'i dargedu i fynd i'r afael â'r bylchau seilwaith yn ein prifddinas, dyma ddechrau partneriaeth hirdymor sy'n darparu band eang cyflym iawn yng Nghymru.
"Diolch yn fawr i bob aelod o dimau Gforce a ffeibr a weithiodd yn ddiflino i wneud i hyn ddigwydd - dyma i'r dyfodol."
Ar gyfer busnesau sy'n chwilio am gysylltedd graddadwy, wedi'i yrru gan bwrpas, sy'n barod i'r dyfodol, cysylltwch â: enquiries@ffeibr.wales