Skip to main content

Music fans encouraged to plan ahead for summer concerts

12 Meh 2026

Wrth i filoedd o bobl fynd i'r brif ddinas yr haf hwn am gyfres wych o gerddoriaeth fyw, dylai ffans cerddoriaeth sy’n mynd i Gaerdydd dros yr haf gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw.

Gyda Take That a Metallica yn cymryd y llwyfan yn Stadiwm Principality, Blackweir Live, sy’n cynnwys Lewis Capaldi a Pitbull, yn dychwelyd, yn ogystal â haf llawn digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, mae disgwyl i wasanaethau trên fod llawer yn fwy prysur na’r arfer drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.

Er mwyn cludo ffans cerddoriaeth adref yn ddiogel, mae TrC wedi gwella capasiti ar lwybrau allweddol gan roi gwasanaethau hwyrach ar waith ar gyfer y rheini sy’n mynychu’r digwyddiadau.

Bydd systemau ciwio yn eu lle yng ngorsafoedd trenau Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines.

Bydd y trefniadau canlynol ar waith yn y gorsafoedd, ac anogir ffans i ymgyfarwyddo’u hunain â’r systemau ciwio cyn iddynt deithio:

  • Cyngherddau Stadiwm Principality (Take That a Metallica): Bydd cwsmeriaid sy’n mynd i'r Cymoedd neu i Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio at orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines, a bydd system giwio ar gyfer y brif lein yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog. Bydd ciwio’n dechrau o 21:45 yn y ddwy orsaf.
    • Cyngherddau Blackweir Live a Chastell Caerdydd: Er bydd gwasanaethau o hyd yn brysur, gall gwsmeriaid y Cymoedd a Bro Morgannwg ddefnyddio naill orsaf neu’r llall i fynd adref.

Ar gyfer yr holl gyngherddau Blackweir Live, bydd gorsaf drenau Cathays a phont yr orsaf yn cau am 22:00. Caiff cwsmeriaid eu cyfeirio naill ai at orsaf drenau Caerdydd Canolog neu Heol y Frenhines.

Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Gyda chyfres wych o ddigwyddiadau’r haf ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni am i bawb fwynhau’r cyngherddau. Mae disgwyl i'r gwasanaethau trên fod yn brysur, ac rydyn ni’n gwneud popeth ag y gallwn i gefnogi hynny drwy gynnal mwy o wasanaethau lle’n bosib ac ychwanegu trenau hwyrach er mwyn cludo pobl adref.

“Bydd ein timau ar gael yn ein gorsafoedd i'ch cefnogi a’ch cadw chi i symud yn ddiogel. Yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw ichi gynllunio ymlaen llaw, gwirio manylion eich trên olaf adref, a thrin ein timau gyda’r caredigrwydd a’r parch maent yn eu haeddu, diolch.”

Atgoffir cwsmeriaid yn gryf i adael digon o amser ar gyfer eu siwrneiau a phrynu eu tocynnau trên ymlaen llaw drwy ap neu wefan TrC.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau 

Nodiadau i olygyddion


Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau am 15:00 ar gyfer cyngherddau Take That a Metallica yn y Principality ac ni fyddant yn ail-agor tan y bore wedyn. 

  • Take That (Stadiwm Principality) – dydd Mawrth 16 Mehefin 2026 
  • The Cure (Blackweir Live) – dydd Mercher 24 Mehefin 2026 
  • Teddy Swims (Blackweir Live) – dydd Gwener 26 Mehefin 2026 
  • Metallica (Stadiwm Principality) – dydd Sul 28 Mehefin 2026 
  • Lewis Capaldi (Blackweir Live) – dydd Mawrth 30 Mehefin & dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026 
  • Pitbull (Blackweir Live) – dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026 

Llwytho i Lawr