05 Rhag 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi enwi un o'i drenau newydd yn 'Gavin and Stacey' wrth i’r Nadolig ‘Ness-áu’ ac wedi ymuno â’r dathliadau ar gyfer pennod olaf cyfres enwog y BBC.
Ychwanegwyd trenau newydd Dosbarth 231 Stadler at lein Bro Morgannwg yn ddiweddar fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn TrC mewn trenau newydd sbon ac maent eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr.
Cymerodd plant lleol o Ysgol Gynradd Ynys y Barri ran yn y digwyddiad Nadoligaidd, gan groesawu'r trên sydd newydd gael ei enwi i orsaf Ynys y Barri.
Dros gyfnod yr haf, roedd 57,000 yn fwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol – ‘tidy’.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant: "Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar draws ein rhwydwaith cyfan ac rydym yn gyffrous i enwi un o'n trenau newydd yma yn Ynys y Barri heddiw.
"Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at bennod olaf erioed cyfres enwog y BBC ac roeddem yn awyddus i ddathlu gyda'r gymuned leol. Rydym yn falch iawn o gael croesawu'r trên 'Gavin and Stacey' i'n rhwydwaith."
Ychwanegodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae Gavin and Stacey wedi dod â degau o filoedd o ymwelwyr i Ynys y Barri dros yr 17 mlynedd diwethaf. Mae buddsoddiad diweddar mewn trafnidiaeth gyhoeddus gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn ei gwneud hi'n haws fyth i ffans y gyfres ddod i fwynhau'r gyrchfan a'r cyfan sydd ganddi i'w chynnig.
"Mae'r trenau newydd yn enghraifft wych o hyn. O ran y trên Gavin and Stacey ei hun, dim ond un gair sydd i'w ddisgrifio: lysh!"