30 Ebr 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru’n dathlu ei fod wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy Wobr GO Genedlaethol y DU ar gyfer y broses arloesol o gaffael gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.
Mae Gwobrau GO, a ddethlir mewn seremoni fawreddog bob blwyddyn, yn arddangos y datblygiadau, y mentrau a’r arloeseddau sy’n gwneud y DU yn arweinydd byd-eang ym maes caffael cyhoeddus clyfar ac effeithiol.
Mae Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr yn Infrastructure Advisory UK Ltd, Steer, Mott McDonald, ChandlerKBS, Grant Thornton, Blake Morgan a Burges Salmon, wedi cael eu henwebu mewn dau gategori. Y cyntaf ar gyfer Prosiect Caffael y Flwyddyn gwerth dros £20 miliwn a’r ail ar gyfer y broses o gaffael Gweithredwr a Phartner Datblygu newydd, sy’n gyfrifol am redeg trenau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac am ddatblygu Metro De Cymru.
Dyfarnwyd y contract 15 mlynedd ym mis Mehefin 2018 yn dilyn proses gaffael lwyddiannus, a barodd ddwy flynedd a dechreuodd gwasanaethau redeg o dan frand Trafnidiaeth Cymru ym mis Hydref.
Mae Trafnidiaeth Cymru’n buddsoddi £5 biliwn i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau amlach, trenau newydd sbon, cyfleusterau gwell mewn gorsafoedd a 600 o swyddi newydd.
Dywedodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cael ein henwebu ar gyfer y gwobrau hyn. Mae’n adlewyrchu’r gwaith rhagorol a wnaed gan ein timau yn ystod y broses o gaffael gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a fydd yn allweddol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon y mae pobl Cymru yn falch ohono”.
Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ar 30 Ebrill yng Ngwesty’r Hilton Metropole, Birmingham.