07 Mai 2020
Heno bydd Trafnidiaeth Cymru yn datgelu’r trenau cyntaf a fydd â sticeri enfys fel teyrnged i’r holl gyd-weithwyr allweddol sy’n helpu yn y frwydr yn erbyn Cofid19.
Mae’r enfys wedi dod i’r amlygrwydd fel symbol o ddiolch i'r holl gweithwyr allweddol sy'n cynorthwyo'r wlad ar yr adeg anodd hon, a fydd nawr i'w gweld ar ochr trenau TrC.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gosod cyfanswm o 100 sticer ar ein fflyd ac fe osodwyd 6 thrên ddoe yn Nhreganna. Dros y penwythnos bydd y sticeri yn cael eu hanfon i ddepos ym Machynlleth a Chaer.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“O oleuo pontydd a chestyll i luniau lliwgar mewn ffenestri o amgylch ein gwlad, mae enfysau’n sicr yn symbol o’n ‘diolch’ i’n harwyr o fewn y GIG a’n gweithwyr allweddol sy’n gweithio’n ddiflino er mwyn achub bywydau a chynnal gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Rwy’n gobeithio y bydd dechrau eu gweld ar y trenau yr ydym wedi ceisio parhau i’w gweithredu yn ystod y cyfnod anodd hwn yn codi ysbryd pawb, ac yn enwedig y gweithwyr rheng flaen sy’n arwain y frwydr yn erbyn COVID-19.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Hoffwn ddiolch i’r holl weithwyr allweddol, gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli TrC, sy’n wirioneddol ymroddedig ac yn cefnogi’r wlad yn y frwydr yn erbyn Cofid19. Ar draws ein rhwydwaith cyfan rydym wedi gweld ein tîmau yn cydweithio ac mae'n wych ffitio'r sticeri hyn i'n trenau a dangos cefnogaeth i'r rhai ar y rheng flaen. "