24 Chw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gadarnhau bod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) wedi ennill y bleidlais sy’n penderfynu pa elusen fydd yn ymddangos ar un o’i drenau yn ddiweddarach eleni.
Derbyniodd yr RNLI bron i hanner y 3,625 o bleidleisiau ar Twitter, gan guro elusennau fel Ambiwlans Awyr Cymru a Mind Cymru.
Bydd logo’r RNLI nawr yn ymddangos ar gerbyd olaf un o’r tri set o gerbydau modern Mark 4 a fydd yn cael eu cyflwyno ar y gwasanaethau o Gaerdydd i Gaergybi yn ddiweddarach eleni. Bydd cerbydau hefyd yn cynnwys logo partneriaid elusennol Trafnidiaeth Cymru, sef Alzheimer’s Cymru a Hosbis Plant Tŷ Gobaith, a gafodd eu dewis gan staff TrC.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
““Llongyfarchiadau gan bawb yn Trafnidiaeth Cymru i’r RNLI am ennill y bleidlais hon. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr RNLI yn teithio ar ein llwybr prysur o’r Gogledd i’r De yn ddiweddarach eleni, yn arbennig ar hyd arfordir Gogledd Cymru, ble mae’r RNLI yn gwneud llawer iawn o’i waith.
Hoffwn ddiolch i bawb am bleidleisio ac am rannu’r bleidlais ar y cyfryngau cymdeithasol. Diolch hefyd i’r RNLI, Mind Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru am gymryd rhan yn y digwyddiad hwn ac am helpu i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Rydyn ni’n gobeithio parhau i weithio’n agos gyda’r tri sefydliad yn y dyfodol.”
Dywedodd Nick Evans, Arweinydd Codi Arian a Phartneriaethau’r RNLI:
“Rydyn ni yn yr RNLI yn falch iawn o fod wedi ennill pleidlais y cyhoedd i gael ein brand ar un o gerbydau newydd Mark 4 TrC. Rydyn ni’n gobeithio defnyddio’r cyfle i gyfleu negeseuon allweddol am ddiogelwch ar y traeth i’r cyhoedd wrth iddyn nhw ymweld â’r arfordir yr haf hwn i sicrhau bod arfordir Cymru yn lle diogel i bawb.”
Nodiadau i olygyddion
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau Mark 4 ar wasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi yn 2021. Bydd y rhain yn disodli’r cerbydau Mark 3 hŷn sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ar nifer cyfyngedig o wasanaethau Caerdydd-Caergybi a Manceinion-Caergybi/Llandudno.
Adeiladwyd cerbydau Mark 4 ar gyfer British Rail rhwng 1989 a 1992 i’w defnyddio ar Brif Reilffordd Dwyrain Lloegr rhwng Llundain a’r Alban. Maent wedi cael eu hadnewyddu rhwng 2003 a 2005, ac yn 2016. Yn fwyaf diweddar, roeddent yn cael eu defnyddio ar Reilffordd Gogledd Ddwyrain Llundain, cyn cael eu disodli gan y trenau Azuma newydd sbon.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi prynu tair set pedwar cerbyd i roi profiad gwell i gwsmeriaid, gyda setiau Mark 4 yn cael eu defnyddio ar dri gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi bob dydd, o’i gymharu ag un y dydd bob ffordd ar hyn o bryd. Bydd hyn yn golygu darparu gwasanaeth arlwyo ehangach, a mwy o wasanaethau gyda seddi Dosbarth Cyntaf. Bydd y cerbydau’n dal i gael eu tynnu gan y trenau locomotif disel Dosbarth 67 pwerus, sy’n eiddo i DB Cargo UK ac yn cael eu prydlesu i TrC i’w defnyddio ar eu gwasanaethau.
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub
Mae’r RNLI yn achub bywydau ar y môr. O’r Fflint i Benarth, rydym yn dylanwadu ar bobl, yn addysgu, yn goruchwylio ac yn achub unrhyw un sydd ein hangen ar yr arfordir.
Bydd degau o filoedd o bobl fel chi yn ymweld â’r arfordir ar drenau TrC yn 2021, felly helpwch i’n cadw ar flaen meddyliau pobl drwy bleidleisio drosom ni.
Dydy’r môr ddim yn gwahaniaethu a dydyn ni ddim chwaith. Byddwn yno bob amser i helpu unrhyw un sy’n canfod eu hunain mewn anhawster. Mae ein badau achub ac achubwyr bywyd o’r radd flaenaf wedi bod yn achub pobl ers bron i 200 mlynedd ac rydym yn bwriadu bod yn rhan o arfordiroedd Cymru am byth.
Gwefan: https://www.rnli.org/