Skip to main content

Your Bus Service, Your Voice – public views wanted on new bus services in Wales

02 Gor 2025

Mae'r cam mawr nesaf i wella gwasanaethau bws yng Nghymru ar y gweill wrth i Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol annog pobl De-orllewin Cymru i rannu eu barn a'u safbwyntiau ar y newidiadau arfaethedig.

Mae'r bil diwygio’r bysiau yn mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd a bydd masnachfreinio bysiau yn dechrau yn haf 2027, a De-orllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i elwa o'r newidiadau.

Mae Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru bellach yn ystyried rhai newidiadau rhwydwaith y gellid eu cyflawni. Gelwir hyn yn Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig ac mae'n dangos y llwybrau y gallai bysiau eu cymryd ac amlder y gwasanaethau yn 2027.

Bydd y newidiadau cychwynnol o fewn y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhwydwaith presennol, gwneud gwelliannau a defnyddio adnoddau presennol.

Bydd TrC yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a'r cyhoedd i adeiladu a gwella'r newidiadau hyn yn barhaus dros amser.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn TrC:

“Bydd masnachfreinio bysiau yng Nghymru yn caniatáu inni lunio rhwydwaith bysiau gwell sydd wir yn gweithio i bobl,  ac rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau..

“Rydym bellach ar ddechrau’r broses a De-orllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i weld newidiadau yn 2027. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnwys y cyhoedd ac yn gwrando ar eu hadborth ynghylch ein gwelliannau arfaethedig.

“Byddem yn annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein neu fynychu’r digwyddiadau a drefnir.”

Sut i roi adborth

Gall y cyhoedd roi eu barn ar-lein: dweudeichdweud.trc.cymru/diwygior-bysiau

Cynhelir digwyddiadau cymunedol hefyd:

Lleoliad Dyddiad Amser
HaverHub (Hwlffordd) 21/07/2025 9am - 5pm
Maes Myrddin (Caerfyrddin) 22/07/2025 9am - 5:30pm
Llyfrgell Gorseinon 23/07/2025 9am - 2pm
Llyfrgell Castell-nedd 24/07/2025 9am - 1pm
Canolfan Ostreme (Y Mwmbwls) 06/08/2025 10am - 1:45pm
Gorsaf bysiau Abertawe 08/08/2025 9:30am - 1:30pm
Llyfrgell Rhydaman 14/08/2025 9am - 4:30pm
Canolfan Phoenix (Abergwaun) 28/08/2025 9am - 4pm
Llyfrgell Cymer Afan (Port Talbot) 03/09/2025 11:30am - 5:30pm
Gorsaf drenau Abertawe 04/09/2025 10am - 4pm
Haverhub (Hwlffordd) 05/09/2025 9am - 5pm

Pafiliwn De Valence

(Dinbych-y-pysgod)

10/09/2025 12pm - 7pm

Cydweli*

I'w gadarnhau I'w gadarnhau

Llanelli*

I'w gadarnhau I'w gadarnhau

Port Talbot*

I'w gadarnhau I'w gadarnhau
Pontardawe* I'w gadarnhau I'w gadarnhau

* Lleoliadau ac amseroedd i'w cadarnhau a'u diweddaru

Nodiadau i olygyddion


Mae ein ffenestr ymgysylltu yn agor ar 1 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 23 Medi 2025.

De-orllewin Cymru yw'r rhanbarth cyntaf i fynd trwy newidiadau yn 2027 a bydd dull cyflwyno fesul cam ar waith ar gyfer rhanbarthau eraill. Y dyddiadau arfaethedig presennol yw:

· De-orllewin Cymru – 2027

· Gogledd Cymru - 2028

· De-ddwyrain Cymru - 2029

· Canolbarth Cymru – 2030