Skip to main content

fflecsi Pembrokeshire expansion to launch this summer

18 Gor 2023

Bydd parth bysiau fflecsi newydd sy’n cynnwys Dinbych-y-pysgod yn cael ei lansio mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Penfro.

Yn ogystal â chynnwys cyrchfannau twristiaeth poblogaidd Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, bydd y parth trafnidiaeth ymatebol newydd yn gwasanaethu cymunedau mewndirol cyn belled â Phenfro a Doc Penfro.

Bydd y parth yn disodli’r gwasanaethau llinell sefydlog 360 a 361 presennol rhwng Dinbych-y-pysgod a Doc Penfro, gan ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy a defnyddiadwy i gymunedau heb wasanaeth bws rheolaidd yn ogystal â chysylltu â gorsafoedd rheilffordd.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi derbyn £180,000 o arian grant gan Gronfa Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ehangu.

Bydd parth Penrhyn Dale a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cael ei ehangu i’r dwyrain y tu hwnt i Aberdaugleddau, gan ddisodli’r gwasanaeth llinell sefydlog 308 sy’n cwmpasu Burton, Llangwm, Hook, Freystrop, Rosemarket a Phont Fadlen. Bydd y 308 taith gyntaf a'r olaf yn parhau er mwyn galluogi Myfyrwyr Coleg a chymudwyr i barhau i deithio heb fod angen archebu lle.

Mae’r parth fflecsi presennol wedi gweld twf sylweddol mewn teithwyr ers iddo ddisodli’r gwasanaeth llinell sefydlog 315 yn gynharach eleni.

Bydd parth fflecsi Bwcabus diwygiedig yn ymestyn i gynnwys Crymych, Llandysilio a Chlunderwen, gan ddarparu gwell cysylltiadau â llwybr llinell sefydlog 430 rhwng Aberteifi ac Arberth.

Bydd ardal Bwcabus a oedd gynt yn cwmpasu Croes Castell-y-bont ar Ogwr, Castellmorris a Llangloffan yn cael ei gwasanaethu gan barth Gogledd-orllewin Sir Benfro.

O ddydd Llun, 24 Gorffennaf bydd y parthau fflesci newydd ar gael unrhyw bryd rhwng 7.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gellir archebu o ddydd Mercher, 19eg Gorffennaf drwy’r ap fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae dyfarnu cyllid grant i alluogi ehangu gwasanaethau fflecsi Sir Benfro yn newyddion gwych i drigolion ac ymwelwyr.

“Mae’r ddarpariaeth bresennol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth agor y gwasanaeth i ardal ehangach a darparu mwy o opsiynau teithio i deithwyr.

“Bydd fflecsi hefyd yn galluogi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ddydd Sadwrn nad yw wedi bod ar gael mewn sawl ardal ers peth amser.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Gwledig Cymru yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae fflecsi Sir Benfro yn enghraifft wych o sut y gall trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw drawsnewid cyfleoedd trafnidiaeth i gymunedau gwledig yng Nghymru ac rwy’n falch iawn o weld y gwasanaeth yn ehangu ar draws y sir.

“Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ledled Cymru a bydd y parth newydd rhwng Saundersfoot a Doc Penfro yn galluogi ymwelwyr sy’n teithio i’r ardal ar y trên i wneud eu teithiau ymlaen gan ddefnyddio fflecsi.