31 Awst 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod y tendrau wedi’u dyfarnu ar gyfer yr elfen nesaf o lwybrau bysiau pellter hir TrawsCymru. Mae’r gwasanaeth yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i lawer o gymunedau yng Nghymru.
Dyma sut dyfarnwyd y contractau:
T1C Caerdydd > Aberystwyth – dyfarnwyd y contract i Mid Wales Travel heb unrhyw newidiadau ar unwaith i’r drefn bresennol.
T2 Bangor > Aberystwyth – dyfarnwyd y contract i Lloyds Coaches heb unrhyw newidiadau ar unwaith i'r drefn bresennol, ond bydd y prisiau a’r amserlen yn cael eu haddasu ym mis Tachwedd. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei integreiddio â’r X28 Aberystwyth > Machynlleth i ddarparu gwasanaeth bob awr drwy gydol y dydd ac i gysylltu â’r gwasanaeth T1 a T1C i gyfeiriad y gogledd a’r de.
T3 Wrecsam > Bermo – dyfarnwyd y contract hwn hefyd i Lloyds Coaches. Y prif newid ar y llwybr hwn fydd cyflwyno gwasanaethau T3C sy’n cysylltu pentrefi, gan gynnwys Llanuwchllyn ger y Bala, i Gorwen er mwyn cysylltu â’r T3. Felly, bydd y gwasanaeth T3 yn fwy effeithlon a chynaliadwy, gan wella amseroedd teithio ar hyd y llwybr. Bydd y prisiau a’r amserlen yn cael eu haddasu ym mis Tachwedd.
T6 Aberhonddu > Abertawe – dyfarnwyd y contract i Adventure Travel. Cafodd y gwasanaeth hwn ei ddadgofrestru’n ddiweddar, a thra bo’r broses gofrestru newydd yn mynd rhagddi byddwn yn cynnal y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim yn ystod wythnosau cyntaf y contract newydd ddechrau mis Medi.
T10 Bangor > Corwen – dyfarnwyd y contract i K&P Coaches. Fel y nodwyd uchod, nid oes unrhyw newidiadau ar unwaith i’r drefn bresennol, ond bydd y prisiau a’r amserlen yn cael eu haddasu ym mis Tachwedd. Ym mis Mawrth 2024 byddwn yn cynyddu amlder y gwasanaeth rhwng Betws y Coed a Bangor ar ddyddiau Sadwrn a Sul, ac yn ystod gwyliau’r ysgol, gan ddarparu gwasanaeth bob awr sy’n cysylltu â gwasanaethau ym Mangor ac Eryri, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch o weld bod y contractau hyn wedi’u dyfarnu ac yn edrych ymlaen at uwchraddio safonau’r gwasanaeth yn unol â’n llwybr T1.
“Rydyn ni wrthi’n caffael bysiau trydan (EV) newydd ar gyfer y rhwydwaith TrawsCymru cyfan, ond bydd rhaid disgwyl cryn amser cyn y byddan nhw’n barod. Felly, byddwn yn disodli rhai o’r cerbydau hŷn â bysiau disel newydd Ewro 6 yn y tymor byr wrth i ni geisio datgarboneiddio’r rhwydwaith a chadarnhau lleoliadau’r depos gwefru.
“Mae rhwydwaith TrawsCymru yn wasanaeth bws eithriadol sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru ac sy’n darparu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i filoedd o bobl. Mae’r cynnydd yn y niferoedd a gofnodwyd yn ddiweddar ar y gwasanaeth T1 yn dangos sut mae darparu tocynnau fforddiadwy, fflyd o ansawdd, ac amserlenni cydgysylltiedig yn gallu cael effaith enfawr ar deithwyr.”
Nodiadau i olygyddion
Mae’r 6 yn y teitl Ewro 6 yn cynrychioli pa mor llym yw’r profion a’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r cerbydau. Bob tro mae’r safon allyriadau’n cael ei adolygu a’i newid, mae’r rhif yn cynyddu – gan ddechrau gydag Ewro 1 yn 1993, hyd at yr Ewro 6 presennol yn 2015. Mae’n debygol y bydd y safon allyriadau Ewro 7 yn dod i rym ym mis Gorffennaf 2025.