Skip to main content

Have your say: Conwy Valley line timetable changes

13 Hyd 2025

Mae teithwyr wedi’u wahodd i dweud eu dweud ar y newidiadau arfaethedig i amserlen llinell Dyffryn Conwy, gyda newidiadau wedi'u cynllunio i ddod i rym o fis Rhagfyr 2026.

Mae llinell Dyffryn Conwy yn wasanaeth pwysig sy’n cefnogi teithio lleol yn bennaf i ac o Landudno, gyda’r llinell yn profi mwy o alw hamdden yn ystod misoedd yr haf, gan gysylltu pobol â chyrchfannau poblogaidd fel Betws-y-coed a Eryri.

Nod yr amserlen newydd yw mynd i'r afael â rhai o'r problemau allweddol gyda'r gwasanaethau presennol, gan integreiddio'r amserlen trên gyda dulliau cludiant eraill a newid gwasanaethau er mwyn gwirioneddol wasanaethu cymunedau Llinell Dyffryn Conwy.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Llun, 13 Hydref 2025 i ddydd Gwener, 28 Tachwedd 2025 ac yn rhoi cyfle i deithwyr roi adborth os yw'r newidiadau arfaethedig yn bodloni eu hanghenion ac i wneud unrhyw awgrymiadau y maent yn credu y gellid gwella'r gwasanaeth.

Gall y cyhoedd weld y newidiadau a gynigir a rhoi eu barn yma - Ymgysylltu ynghylch Amserlen Rhagfyr 2026 Dyffryn Conwy | Trafnidiaeth Cymru

Mae hefyd digwyddiadau cymunedol:

Conwy valley consultation2

Mae TrC yn gofyn i holl ddefnyddwyr Llinell Dyffryn Conwy ddefnyddio'r cyfle hwn i helpu i lunio amserlen fwy dibynadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned.