20 Tach 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwahodd defnyddwyr trafnidiaeth i rannu eu barn ar weledigaeth uchelgeisiol Rhwydwaith Gogledd Cymru.
Mae'r buddsoddiad hirdymor hwn, wedi'i gynllunio i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, amledd uchel ar gyfer y rhanbarth.
Mae'r weledigaeth wedi'i gosod i gysylltu pobl a chymunedau yng Ngogledd Cymru a'r rhanbarthau cyfagos â swyddi, cyfleoedd, hamdden ac ansawdd bywyd gwell.
Mae hwn yn gyfle i gymunedau a busnesau roi adborth ar y weledigaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth.
Mae'r cyfnod ymgysylltu bellach ar agor ac yn rhedeg tan ddydd Gwener 30 Ionawr 2026
Gallwch ddysgu mwy am y weledigaeth a dweud eich dweud yma – Rhwydwaith Gogledd Cymru | Trafnidiaeth Cymru
Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ledled y rhanbarth i gwrdd â chymunedau a siarad am y weledigaeth (mwy i'w cyhoeddi).
- Dydd Iau 20 Tachwedd, 10am – 4pm – Llyfrgell Caergybi
- Dydd Iau 27 Tachwedd, 10am – 4pm - Gorsaf Reilffordd Bangor
- Dydd Iau 4 Rhagfyr, 10am – 4pm – Gorsaf Reilffordd Caer
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen waith hynod uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gysylltu cymunedau’n well, gyda mwy o wasanaethau rheilffordd a bysiau, gorsafoedd newydd, llwybrau trafnidiaeth newydd, trenau newydd, bysiau newydd a thechnoleg newydd.
“Rhan allweddol o’r gwaith cyffrous hwn yw sicrhau bod anghenion pobl leol yn cael eu diwallu, felly rwy’n eich annog chi gyd i gymryd rhan a helpu i lunio dyfodol Rhwydwaith Gogledd Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid sut mae pobl yn teithio ar draws y rhanbarth, gan ddatgloi twf economaidd, gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i'n cymunedau.
“Mae'n hanfodol bod y weledigaeth hon yn adlewyrchu anghenion a dyheadau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Rydym yn annog pobl i gwblhau'r arolwg a helpu i lunio gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru ar gyfer rhwydwaith sydd wedi'i gysylltu'n well, yn fwy hygyrch ac yn llawn cyfleoedd."