Skip to main content

Have your say on proposals for Wrexham Gateway Transport Hub

09 Tach 2023

Ydych chi'n byw yn Wrecsam, yn berchennog busnes neu'n ymwelydd?  Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ystyried trawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn ganolfan drafnidiaeth leol a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.

Mae TrC yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam, a phartneriaid ehangach, i gyflwyno cynllun adfywio mawr yn yr ardal o amgylch Gorsaf Wrecsam Cyffredinol, y cyfeirir ato fel ‘Porth Wrecsam'.

Nod yr ymgynghoriad 6 wythnos yw cael mwy o fanylion am unrhyw heriau y mae aelodau'r cyhoedd a busnesau yn eu hwynebu wrth deithio yn ôl ac ymlaen o Orsaf Reilffordd Wrecsam Cyffredinol ac wrth ddefnyddio'r orsaf.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod ystod eang o adborth a chyfleoedd posibl yn yr ardal yn cael eu canfod, tra hefyd yn darparu diweddariad i gynigion Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam.

Mae'r cyfnod ymgysylltu wedi dechrau a bydd ar agor nes 19 Rhagfyr 2023.  Gallwch ddarllen rhagor am y cynigion a llenwi ffurflen adborth ar-lein yn: dweudeichdweud.trc.cymru/hyb-trafnidiaeth-porth-wrecsam

Bydd Trafnidiaeth Cymru'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd drafod y dyluniadau a'r cynigion ar gyfer y gwasanaethau gyda thimau'r prosiect.  Dyma'r manylion:

  • Tŷ Pawb (Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB) - 14 Tachwedd, 14:00 – 18:00
  • Ystafell B10 Prifysgol Wrecsam (Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, Cymru, LL11 2AW) - 15 Tachwedd, 09:00-13:00.
  • Gorsaf Wrecsam Cyffredinol (Ffordd yr Orsaf, Wrecsam, LL11 2AA) - 29 Tachwedd, 09:00 - 19:00.

Bydd ffurflenni adborth papur yn y Gymraeg a Saesneg ar gael yn y sesiynau galw heibio, neu gellir casglu'r rhain yn ystod y cyfnod ymgysylltu o Swyddfa docynnau gorsaf Wrecsam Cyffredinol, Llyfrgell Wrecsam a Tŷ Pawb (o 14 Tachwedd).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â'r tîm:

  • E-bost: PorthWrecsamGateway@wsp.com
  • Yn y post (At Sylw: Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam): Trafnidiaeth Cymru, Tŷ Ellice (Uned H), Pentref Busnes Wrecsam, Ffordd Ellice, Wrecsam, LL13 7YL.