Skip to main content

Have your say on the future of bus services in North Wales

14 Awst 2026

Mae pobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i rannu eu barn ar ddyfodol rhwydwaith bysiau'r rhanbarth, wrth i'r cam nesaf o gynlluniau i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru ddechrau.

Mae'n dilyn cymeradwyo rhwydwaith bysiau arfaethedig ar gyfer Gogledd Cymru, a gyd-ddyluniwyd gan Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel rhan o raglen ddiwygio bysiau ehangach Llywodraeth Cymru.

Bydd ymgysylltu cyhoeddus wyth wythnos ar y rhwydwaith arfaethedig yn dechrau ddydd Gwener 14 Awst, gyda mwy nag 20 o sesiynau galw heibio wedi'u cynllunio ledled Gogledd Cymru ym mis Medi.

Bydd pobl ifanc hefyd yn cael eu hannog i rannu eu barn mewn cyfres o ddigwyddiadau coleg a phrifysgol.

Nod diwygio bysiau yw darparu gwasanaethau bws mwy dibynadwy, prisiau bysiau tecach a thocynnau ac amserlenni symlach.

Mae'r rhwydwaith bysiau arfaethedig yn dangos y llwybrau a'r amlder y gallai bysiau eu cymryd yng Ngogledd Cymru ac mae'n cynnwys gwelliannau awgrymedig i'r rhwydwaith y gellir eu cyflawni o fewn yr amlen ariannu bresennol.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a'r cyhoedd i adeiladu a gwella'r newidiadau hyn yn barhaus dros amser.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth ac Integreiddio Rhanbarthol yn Trafnidiaeth Cymru: "Mae bysiau yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu pobl a chymunedau yng Nghymru, ond rydym yn gwybod bod cyfleoedd i wella.

"Trwy fasnachfreinio bysiau rydym am ddarparu cysylltiadau gwell, gwasanaethau amlach, amserlenni a phrisiau symlach erbyn 2030.

"Rydyn ni nawr yn gofyn i gymunedau ledled Gogledd Cymru helpu i lunio'r cynlluniau hyn. Trwy gymryd rhan yn ein hymgysylltiad cyhoeddus, gall pobl ein helpu i adeiladu rhwydwaith bysiau sy'n gweithio'n well i deithwyr nawr ac yn y dyfodol."

Nodiadau i olygyddion


Sut i gynnig adborth

Gall y cyhoedd adborth ar eu barn ar-lein: Dweud eich dweud ar wasanaethau bysiau yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru | Trafnidiaeth Cymru a mae copïau phapur hefyd ar gael ar gais yn ogystal ag yn y digwyddiadau galw heibio.

Bydd digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal ledled Gogledd Cymru yn ystod mis Medi, gan roi cyfleoedd i gymunedau lleol ddarganfod mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Wythnos 1

Dydd Mawrth 1 Medi

  • Caernarfon – 9:00am–1:00pm, Gorsaf Fysiau Caernarfon
  • Porthaethwy – 3:00pm–6:00pm, Llyfrgell Porthaethwy

Dydd Mercher 2 Medi

  • Bae Colwyn – 9:00am–1:00pm, Canolfan Siopa Bayview
  • Yr Wyddgrug – 9:00am–1:00pm, Llyfrgell ac Amgueddfa'r Wyddgrug

Dydd Iau 3 Medi

  • Corwen – 9:00am–12:00pm, Canolfan Ni (Prif Neuadd)

Dydd Gwener 4 Medi

  • Y Waun – 9:00am–1:00pm, Neuadd Plwyf y Waun

Wythnos 2

Dydd Llun 7 Medi

  • Wrecsam – 8:00am–1:00pm a 4:30pm–7:00pm, Gorsaf Fysiau Wrecsam
  • Glannau Dyfrdwy – Trwy'r dydd, Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy

Dydd Mawrth 8 Medi

  • Y Fflint – 9:00am–1:00pm, Neuadd y Dref y Fflint
  • Y Rhyl – 4:00pm–7:00pm, Gorsaf Reilffordd y Rhyl

Dydd Mercher 9 Medi

  • Betws-y-coed – 11:00am–2:00pm, Gorsaf Reilffordd Betws-y-coed

Dydd Iau 10 Medi

  • Dolgellau – 1:00pm–4:00pm, Tŷ Siamas

Dydd Gwener 11 Medi

  • Nefyn – 9:00am–11:00am, Ganolfan Nefyn
  • Pwllheli – 11:30am–1:30pm, Gorsaf Reilffordd Pwllheli

Wythnos 3

Dydd Mawrth 15 Medi

  • Porthmadog – 10:00am–2:00pm, Y Ganolfan, Porthmadog

Dydd Mercher 16 Medi

  • Amlwch – 10:00am–12:00pm, Llyfrgell Amlwch

Dydd Iau 17 Medi

  • Treffynnon – 9:00am–1:00pm, Amgueddfa Gymunedol Ardal Treffynnon
  • Brymbo – 3:00pm–6:00pm, Canolfan Fenter Brymbo

Wythnos 4

Dydd Llun 21 Medi

  • Caergybi – 9:30am–1:00pm, Llyfrgell Caergybi
  • Llangefni – 3:00pm–7:00pm, Neuadd y Dref Llangefni

Dydd Mawrth 22 Medi

  • Llandudno – 9:00am–1:00pm, Canolfan Siopa Victoria

Dydd Mercher 23 Medi

  • Bangor – 9:30am–2:00pm (Llyfrgell Bangor) a 4:30pm–7:00pm (gorsaf drenau Bangor)
  • Prifysgol Bangor – Drwy'r dydd

Dydd Iau 24 Medi

  • Rhuthun – 9:00am–1:00pm, Yr Hen Lys
  • Prifysgol Wrecsam – Trwy'r dydd

Dydd Gwener 25 Medi

  • Johnstown – 12:00pm–3:00pm, Canolfan Gymunedol Johnstown