Skip to main content

More than half a million take the train to the seaside

02 Hyd 2023

Mae cwsmeriaid wedi bod yn mynd i lan y môr ar y trên ledled Cymru yr haf hwn yn ôl ffigurau newydd yr wythnos hon.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid a oedd yn teithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru i Abermaw, Ynys y Barri, Dinbych-y-pysgod a Llandudno ym mis Gorffennaf a mis Awst, er gwaethaf’r tywydd cyfnewidiol.

Llandudno oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd yn ystod yr haf gyda 65,046 o bobl yn ymweld â’r dref.

Yr haf hwn, fe welodd rheilffordd Arfordir y Cambrian drenau â phedwar cerbyd yn dychwelyd am y tro cyntaf ers chwe blynedd, diolch i gydweithrediad lleol rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.

O ganlyniad, gwelodd Arfordir y Cambrian gynnydd o 16% mewn teithiau gyda 106,000 o bobl yn teithio i gyrchfannau allweddol ar y rheilffordd, o’i gymharu â 90,000 yr haf diwethaf.

Gwelwyd cynnydd enfawr o 63% yn nifer y cwsmeriaid ym Mhwllheli ar ochr ogleddol rheilffordd y Cambrian, a gwelwyd cynnydd o 58% yn nifer y cwsmeriaid yn y Fflint ar Arfordir Gogledd Cymru o’i gymharu â haf 2022.

Dywedodd Gwyn Rees, cyfarwyddwr Perfformiad a thrawsnewid Network Rail ar gyfer Cymru: “Mae Cymru mor ffodus i gael rhai o’r cyrchfannau glan môr ac arfordirol gorau yn y byd, felly mae’n wych gweld pobl yn mynd ar y trên i fanteisio ar hynny.

“Ar reilffordd y Cambrian, fe wnaethon ni weithio’n galed i sicrhau bod trenau pedwar cerbyd yn gallu teithio i fyny’r arfordir lle rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau teithio.”

Yn Abermaw, fe welwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr - o 30,786 yn ystod haf 2022 i 34,452 yr haf hwn, ac fe groesawodd Aberystwyth 36,121 o ymwelwyr o’i gymharu â 32,857 y flwyddyn flaenorol.

I lawr yn ne Cymru, fe deithiodd 57,015 o bobl  i Ynys y Barri ar y trên ac fe groesawodd Dinbych-y-pysgod 19,809 o bobl.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod gallu rhedeg gwasanaethau o ansawdd da i’r cyrchfannau allweddol hyn yn hanfodol ar gyfer twf economïau lleol.

“Mae golygfeydd godidog ar reilffordd y Cambrian. Gan weithio gyda Network Rail, rydyn ni wedi datrys problemau sydd wedi atal trenau â phedwar cerbyd rhag rhedeg ers 2016, ac rydw i’n falch iawn bod hyn wedi galluogi mwy o bobl i fwynhau'r ardal i’r eithaf.”

Roedd yr atebion yn cynnwys gwelliannau yng ngorsaf Abermaw, a dull newydd o weithio trenau i sicrhau nad yw’r trenau hirach â phedwar cerbyd yn mynd ar draws croesfannau rheilffordd pan fyddant yn stopio ar blatfformau byr.