20 Tach 2026
Gwnaed mwy na 9,000 o deithiau talu wrth fynd gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar draws 25 o orsafoedd sy'n cymryd rhan yn y cynllun yng ngogledd Cymru a'r Gororau yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf; mae hyn yn gam sylweddol ymlaen tuag at ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus fodern ar gyfer y rhanbarth.
Lansiwyd y cynllun tapio i mewn a thapio allan yn ddigyswllt yn wreiddiol ar draws 10 gorsaf yng ngogledd Cymru a'r Gororau ym mis Mai 2026, cyn ehangu’r cynllun i 15 gorsaf arall ym mis Medi.
Rhwng 28 Medi a 26 Hydref 2026, cofnododd y cynllun 358 o deithiau y dydd ar gyfartaledd, gan gyrraedd 847 o deithiau ddydd Sadwrn 17 Hydref.
Wedi'i ddefnyddio am y tro cyntaf gan dros 4,000 o gwsmeriaid yn y rhanbarth, ac ar ôl ehangu i 25 o orsafoedd, mae'r system talu wrth fynd yn symleiddio teithio ar y rheilffordd. Mae'n galluogi teithwyr i dapio i mewn a thapio allan gan ddefnyddio cerdyn banc digyswllt neu ddyfais glyfar, gan gyfrifo'n pris gorau yn awtomatig ar gyfer tocyn cyfatebol i oedolyn ar gyfer eu taith.
Mae data cynnar yn dangos ymateb cryf gan gwsmeriaid ar draws y rhanbarth, gyda gorsafoedd sy'n cymryd rhan yn cofnodi 374 o deithiau’r un ar gyfartaledd. Y llwybr o Gaer i'r Rhyl oedd y mwyaf poblogaidd, gyda 1,642 o deithiau, ac yna'r llwybr o Gaer i Brestatyn gyda 1,261 o deithiau.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Mae’n galonogol iawn gweld y ffordd y mae cwsmeriaid ledled gogledd Cymru wedi croesawu'r cynllun talu wrth fynd yn ystod ei fis cyntaf."
“Mae mwy na 4,000 o bobl bellach wedi defnyddio'r cynllun ac rydym yn gweld twf cryf a chyson yn nifer y teithiau a wnaed wrth i ymwybyddiaeth gynyddu.
“Mae'n arbennig o gadarnhaol gweld gogledd Cymru a'r gororau yn cyflawni llwyddiant o'r fath, ochr yn ochr â'n cynllun sydd wedi hen ennill ei blwyf yn ne Cymru.
“Mae hynny’n dangos bod awydd gwirioneddol am opsiynau tocynnau symlach a mwy hyblyg sy’n gwneud teithio ar y rheilffordd yn haws.
“Byddwn yn parhau i weithio i wella profiad y cwsmer wrth i'r defnydd gynyddu a byddwn yn archwilio cyfleoedd yn y dyfodol i ehangu buddion teithio gan ddefnyddio talu wrth fynd.”
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod cwsmeriaid yn dechrau manteisio ar ostyngiadau cerdyn rheilffordd drwy'r cynllun; gwnaed 90 o deithiau talu wrth fynd gan ddefnyddio cerdyn rheilffordd, a mwy na thri chwarter ohonynt drwy ddefnyddio Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i archwilio cyfleoedd i ehangu integreiddio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd ehangach, tra bod gwelliannau parhaus yn cael eu gwneud i gefnogi cwsmeriaid sy'n teithio rhwng gwahanol weithredwyr.
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r ystadegau'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 28 Medi a 26 Hydref 2026, sy'n cynrychioli'r pedair wythnos lawn gyntaf yn dilyn ehangu’r cynllun talu wrth fynd yng ngogledd Cymru a'r Gororau.
- Defnyddiodd mwy na 4,000 o gwsmeriaid y cynllun talu wrth fynd am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod, a chofnodwyd dros 9,300 o deithiau lle talwyd am docyn.
- Caer - Y Rhyl a Chaer–Prestatyn oedd y llwybrau talu wrth fynd a ddefnyddiwyd amlaf.
- Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen hirdymor i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig, sy'n cysylltu pobl â chyfleoedd cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a hamdden yn well ar draws gogledd Cymru, y gororau a’r 'Northern Arc' ehangach. Mae'n dwyn ynghyd fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffordd a bysiau, gorsafoedd, systemau tocynnau integredig a seilwaith, a gyflwynir trwy gydweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid rhanbarthol.
- Anogir cwsmeriaid i gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd drwy ap TrC; drwy wneud hynny, gallant gael mynediad at gymorth gwell i gwsmeriaid, gweld hanes eu teithiau a'u taliadau, cael mynediad at dderbynebau teithio a derbyn rhybuddion os byddant yn anghofio tapio allan.
- Mae peiriannau dilysu ar blatfformau mewn gorsafoedd cyfnewid (fel Bidston) wedi'u codio â lliwiau yn ôl y gweithredwr: mae rhai Trafnidiaeth Cymru yn binc ac mae rhai Merseyrail yn felyn. Dylai teithwyr sicrhau eu bod yn cyffwrdd â pheiriant y gweithredwr cywir wrth ddechrau a gorffen eu taith (gan nad yw'n bosibl ar hyn o bryd teithio rhwng y rhanbarthau gan ddefnyddio talu wrth fynd).
- Mesurir y gwerth gorau am arian yn erbyn prisiau'r tocynnau cyfatebol agosaf nad ydynt yn rhai talu wrth fynd yn unig (Tocyn Unffordd Diwrnod Unrhyw Bryd, Tocyn Dwyffordd/Tocyn ‘Saver’ Diwrnod Unrhyw Bryd a thocyn Tymor 7 Diwrnod).
- Mae capiau prisiau dyddiol ac wythnosol yn galluogi cwsmeriaid i wneud nifer diderfyn o deithiau o fewn cyfnod penodol, heb orfod talu am deithiau ychwanegol pan fydd y terfyn wedi’i gyrraedd.
- Mae TrC yn dymuno cyflwyno opsiynau talu wrth fynd i blant yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddai hyn yn dibynnu ar waith datblygu pellach. Yn y cyfamser, nid yw teithio am ddim trwy gynlluniau teithio rhatach na chynigion i deuluoedd neu grwpiau yn rhan o'n cynnig talu wrth fynd. Mae'r sefyllfa hon yn cyd-fynd â'r hyn a welir yn y rhan fwyaf o gynlluniau talu wrth fynd eraill ledled y genedl.