Skip to main content

Over 100 Modern Shelters Installed in Southeast Wales

09 Meh 2025

Mae mwy na 100 o lochesi platfform yn ne-ddwyrain Cymru naill ai wedi derbyn llochesi newydd yn eu lle neu wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o brosiect gorsafoedd 18 mis o hyd, gwerth £2 filiwn.

Disgrifiwyd y gwaith, sydd wedi bod ar Linellau Craidd y Cymoedd yn bennaf, fel “gwelliant wedi’i dargedu er lles cwsmeriaid”.

Mae sawl dyluniad o lochesi gwahanol wedi'u gosod gan gynnwys rhai â tho casgen, rhai â tho gwyrdd a rhai ar ffurf dyluniad ‘Voyager’.

Mae gwaith wedi digwydd ar fwy na 60 o orsafoedd gwahanol o Ynys y Barri yn y de i Ferthyr, Aberdâr a Rhymni yn y gogledd.

Gwelodd rhai dyluniadau, gan gynnwys y rheiny ar gyfer Penarth a Grangetown, lochesi cyfun wedi'u hadeiladu gyda storfa feiciau fel rhan o’r dyluniad.

Dywedodd y Rheolwr Prosiectau Adam Zak: “Mae hwn wedi bod yn brosiect cynhwysfawr iawn sy’n edrych ar wneud gwelliannau wedi’u targedu er lles ein cwsmeriaid.

“Rydyn ni’n gwybod bod cael rhywle diogel ac addas i gysgodi rhag yr elfennau yn hynod o bwysig i gwsmeriaid sy’n aros am drên.

“Yn Grangetown er enghraifft, dim ond to oedd yr hen loches mewn gwirionedd ac roedd yn cynnig ychydig iawn o amddiffyniad rhag yr elfennau. Mae'r un newydd yn newid mawr i gwsmeriaid.

“Mae’r gwaith yn gwella golwg a theimlad ein gorsafoedd yn fawr felly mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd yn dda ag un o’n gwerthoedd fel cwmni, sef ein bod ni'n gwneud y peth iawn.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hyd yn hyn a gobeithiaf y bydd yn gwella profiad cyffredinol ein cwsmeriaid.”