17 Hyd 2025
Mae dros 1.5 miliwn o deithiau trên talu wrth fynd bellach wedi'u gwneud ar lwybrau Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn Ne Cymru.
Lansiwyd y dechnoleg tapio i mewn a thapio allan ym mis Tachwedd 2024 ac erbyn hyn, dyma’r math o docyn trên sydd wedi gwerthu gyflymaf i Trafnidiaeth Cymru.
TrC oedd y gweithredwr trenau cyntaf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gyflwyno'r system dalu hon ac mae'n arwain y ffordd yn niwydiant rheilffyrdd y DU. Mae'r system talu wrth fynd ar gael ar draws 95 o orsafoedd ar hyn o bryd fel rhan o brosiect Metro De Cymru, ac mae'n sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer eu teithiau.
Mae TrC yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a chaiff tocynnau Talu Wrth Fynd eu hehangu i Rwydwaith Gogledd Cymru y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’n newyddion gwych bod cynifer o bobl wedi bod yn elwa o docynnau cyflym, syml a chost-effeithiol drwy wasanaeth talu wrth fynd TrC. Gwnaed y teithiau hynny’n bosibl o ganlyniad i’n buddsoddiad o £800m, sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phrofi trenau newydd.”
“Gyda chyflwyniad Talu wrth Fynd ledled Gogledd Cymru yn fuan, rwy’n falch y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu elwa o deithio hyblyg a fforddiadwy ledled Cymru.”
Ychwanegodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Gyda dros 1.5 miliwn o deithiau wedi’u gwneud, Talu Wrth Fynd yw ein cynnyrch rheilffordd sy’n tyfu gyflymaf ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn ehangu i Rwydwaith Gogledd Cymru y flwyddyn nesaf.
“Yn TrC, ein ffocws erioed fu gwella profiad y cwsmer ac mae tocynnau ‘tapio i mewn a thapio allan’, yn ogystal â threnau newydd sbon, yn cael effaith gadarnhaol ar ein cwsmeriaid a’n refeniw.”