18 Medi 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn barod ar gyfer yr hydref.
Mae'r hydref yn dymor anodd i’r diwydiant rheilffyrdd ar draws y DU o ganlyniad i amodau tywydd gwael sy’n gallu difrodi trenau, sy’n lleihau’r nifer sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau.
Fodd bynnag, ar sail dau adroddiad annibynnol, mae partneriaid yn y diwydiant wedi bod yn canolbwyntio ar y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid.
Mae TrC wedi gosod teclynnau Diogelu Olwynion rhag Llithro ar nifer o’u trenau, yn ogystal â’r dechnoleg “sandiwr awtomatig” er mwyn gwella gwytnwch eu fflyd. Mae Network Rail wedi bod wrthi’n rheoli’r llystyfiant a byddant yn trin mwy o gledrau nag erioed o'r blaen ac rydyn ni hefyd wedi paratoi timau ymateb ar y rheng flaen.
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Mae profiad y cwsmer wrth galon ein penderfyniadau ac rydyn ni’n cydnabod sut gall amodau'r hydref effeithio ar ein gwasanaethau.
“Rydyn ni wedi bod yn treulio nifer o fisoedd yn paratoi ar gyfer yr hydref a oedd yn cynnwys adolygu digwyddiadau’r llynedd yn llawn, gan ganolbwyntio ar sut gallwn ni wella, ar sail argymhellion dau adroddiad annibynnol. O ganlyniad rydyn ni wedi gosod teclynnau Diogelu Olwynion rhag Llithro ar nifer o’n trenau, rydyn ni wedi buddsoddi mewn olwynion sbâr ychwanegol ac rydyn ni wedi uwchraddio ein cyfleusterau trwsio olwynion yn y depo cynnal a chadw trenau yn Nhreganna.
“Fel diwydiant, rydyn ni’n deall yr her sy’n ein hwynebu, ond rydyn ni eisiau sicrhau ein cwsmeriaid ein bod wedi bod yn paratoi a’n bod yn barod i weithio’n galed i ddarparu’r gwasanaethau gorau gallwn ni drwy gydol y cyfnod.”
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a'r Gororau, Network Rail:
“Rydyn ni’n dysgu gwersi drwy’r amser yn y diwydiant rheilffyrdd ac roeddem wedi dysgu llawer o wersi o’r hydref diwethaf ar lwybr Cymru a’r Gororau. Rydyn ni wedi buddsoddi mwy o adnoddau nag erioed o’r blaen yn y gwaith paratoi ar gyfer yr hydref yma, a hynny ar draws nifer o feysydd, a byddwn yn paratoi i weithio drwy'r dydd a’r nos os bydd angen er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn dal i redeg ac er mwyn galluogi cwsmeriaid i gyrraedd pen eu taith mor llyfn ac mor effeithlon â phosibl.”
Fel rhan o’r paratoadau, bu Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymweld â depo Treganna i gwrdd â gweithwyr y diwydiant, dywedodd:
“Mae hi wedi bod yn grêt cael ymweld â depo Treganna bore yma i gwrdd â’r tîm peirianneg yn Trafnidiaeth Cymru a gweld y gwaith sy’n cael ei wneud wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer tymor yr hydref.
“Mae’n galonogol iawn gweld y cydweithio rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff am eu hymrwymiad.”