Skip to main content

Thank Your Cleaner Day

18 Hyd 2023

Dannedd gosod, ffyn cerdded a baglau.

Dim rai o’r pethau y mae glanhawyr Trafnidiaeth Cymru wedi’u canfod yn y depo yng Nghaergybi, wrth iddyn nhw fynd drwy’r trenau i sicrhau bod popeth yn dwt ac yn lân i gwsmeriaid.

Ar drothwy Diwrnod Cenedlaethol Diolch i’ch Glanhäwr (18 Hydref), cawsom sgwrs â’n tîm yn y gogledd i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith.

Mark Hornby yw Rheolwr Ardal Glanhau Trafnidiaeth Cymru, a dywedodd wrthym fod y tîm fel arfer yn glanhau y tu mewn a’r tu allan i tua 30 o gerbydau dros nos, yn ogystal â glanhau y tu mewn i’r cerbydau yn ystod y dydd hyd at Fangor a Chyffordd Llandudno.

Dywedodd: “Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd safonau uchel, ac mae’r arweinwyr tîm a minnau bob amser yn gofyn am y safonau uchaf posibl gan ein timau.

“Gan mai dyma’r orsaf olaf ar y rheilffordd, a chan fod y gwasanaeth glanhau trenau agosaf dros 90 munud i ffwrdd, rydyn ni wedi sicrhau bod yr holl unedau sy’n cyrraedd Caergybi yn ystod y dydd yn cael eu glanhau yn drylwyr.

“Rydyn ni wedi gorfod addasu ein dull gweithredu, gan gynnwys cynyddu nifer y trenau i Fangor er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion y safonau.

“Rydyn ni’n tueddu i beidio â chael ein heffeithio gan feirniadaeth a chanmoliaeth. Mae’r tîm yn ymwybodol o’u rolau a’r disgwyliadau, ac ni waeth pa ddiwrnod o’r wythnos yw hi rydyn ni’n benderfynol o sicrhau cysondeb o ran y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaeth.”

Mae’r tîm bychan draw yng Nghaergybi hefyd yn glanhau’r trenau Avanti sy’n gwasanaethu rheilffyrdd Llundain.

Mae’r fflyd sy’n dechrau ar eu taith o Gaergybi bob bore yn teithio cannoedd o filltiroedd ac yn cludo miloedd o gwsmeriaid bob dydd.

Gall rhai diwrnodau fod yn heriol, yn enwedig pan fo digwyddiadau ymlaen. Mae rasys Gaer yn denu torfeydd mawr yn rheolaidd, ac mae cyfnod y Nadolig hefyd yn adeg prysur iawn i’r glanhawyr.

Ers i ni droi yn Trafnidiaeth Cymru bum mlynedd yn ôl, mae’r timau glanhau bellach yn cael eu cyflogi’n fewnol fel rhan o’r tîm ehangach ar y trenau – ac mae’r penderfyniad hwn wedi talu ar ei ganfed.

“Mae ein goruchwylwyr bob amser yn atgoffa cwsmeriaid i fynd â sbwriel gyda nhw, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy’n dilyn y cyfarwyddyd hwn ers i ni ddod yn aelod o’r tîm ar y trenau,” ychwanegodd Mark.

“Rydyn ni’n bendant yn gweld llai o blastig yn ein biniau erbyn hyn, sy’n wych, ond rydyn ni’n gweld rhai eitemau eithaf anarferol fel baglau, ffyn cerdded, a hyd yn oed dannedd gosod o bryd i’w gilydd!”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi dros 100 o lanhawyr mewn lleoliadau allweddol o gwmpas y rhwydwaith, gan gynnwys Caerfyrddin, Caerdydd, Abertawe, Amwythig, Machynlleth, Y Barri, Caer, Manceinion a Chaergybi.

Yn ogystal â’r rhain, mae gennym ni hefyd lanhawyr sy’n glanhau cerbydau fflyd mewn depos yn Nhreganna, Treherbert, Rhymni a Machynlleth, yn ogystal â Gweithwyr Amgylcheddol mewn Gorsafoedd.

Rhyngddynt, maen nhw’n sicrhau bod trenau, gorsafoedd, ystafelloedd bwyd a swyddfeydd yn cael eu cadw mor lân â phosibl.

Dywedodd Wendy Jones, Rheolwr Gweithrediadau Glanhau: “Mae ein timau glanhau yn gwneud gwaith arbennig iawn.

“Maen nhw’n gweithio ddydd a nos er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n staff yn gallu teithio a gweithio mewn amgylchedd mor lân â phosibl.

“Felly cymerwch funud i ddiolch i’ch glanhawr heddiw!”